Camau iaith
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Dyma'r lefelau o gymhwysedd y disgwylir i chi eu cael cyn dechrau cwrs ar bob cam, a'r lefel o gymhwysedd y byddwch chi’n ei chyrraedd ar ddiwedd pob cwrs.
Mae'r lefel o gymhwysedd y disgwylir i chi ei chael cyn dechrau cwrs wedi'i nodi yn nheitl y cwrs. Dylai myfyrwyr sydd â diddordeb yn ein cyrsiau iaith bennu lefel eu cymhwysedd cyn ymrestru ar gwrs.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr sy'n ymrestru ar lwybr i radd mewn ieithoedd modernddechrau ar gam E neu’n uwch.
Rydyn ni hefyd wedi nodi i ba lefel ar y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin (CEFR) y mae pob cam yn cyfateb iddi.
Lefelau cymhwysedd
Mae penderfynu ar lefel eich cymhwysedd iaith yn gallu bod yn anodd, ond rydyn ni wedi datblygu cyfres o ddisgrifiadau i helpu:
Lefel Cymhwysedd a argymhellir wrth ymuno | Cam | Lefel cymhwysedd a gyrhaeddwyd ar ddiwedd y modiwl | CEFR |
---|---|---|---|
Sgiliau goroesi sylfaenol: deall testunau ysgrifenedig a llafar sylfaenol; cymryd rhan mewn sgwrs syml; cyfleu gwybodaeth syml yn ysgrifenedig. | A | Sgiliau goroesi sylfaenol: deall testunau ysgrifenedig a llafar sylfaenol; cymryd rhan mewn sgwrs syml; cyfleu gwybodaeth syml yn ysgrifenedig. | Paratoi ar gyfer A1 |
A+ | Crëwyd Cam A + yn bont rhwng cam A a cham B. | Paratoi ar gyfer A1 | |
Gallech fod wedi astudio’r iaith gryn amser yn ôl ac mae’n bosibl ei bod bellach wedi rhydu braidd (astudio’n rhan amser am flwyddyn neu lefel TGAU ‘rydlyd’ yn yr iaith a astudiwyd). | B | Dylech chi fod yn meddu ar eirfa ddigonol er mwyn ymdopi â sefyllfaoedd bob dydd gyda chynnwys rhagweladwy ac anghenion goroesi syml. Dylech chi allu delio â sgyrsiau cymdeithasol byr iawn. Dylech fod yn gallu deall disgrifiad syml. | Paratoi ar gyfer A2 |
Mae’n bosibl eich bod wedi caffael sgiliau goroesi yn yr iaith ac wedi cael ychydig o gyfle i ddefnyddio’r iaith yn ddiweddar (astudio rhan amser am ddwy flynedd neu wedi llwyddo’n dda yn ddiweddar mewn arholiad TGAU yn yr iaith a astudiwyd). | C | Dylech chi fod yn gallu ymdopi’n hyderus â sefyllfaoedd bob dydd. Dylech chi allu gwahodd ac ymddiheuro ac ati, ac ymateb iddyn nhw. Dylech chi allu deall sgwrs syml ac uniongyrchol o wybodaeth gyfyngedig am faterion cyfarwydd a chyffredin. | Paratoi ar gyfer A2 |
Mae’n bosibl bod gennych chi afael da ar yr iaith beth amser yn ôl a’ch bod eisiau gloywi a chynyddu ar eich dealltwriaeth a’ch mynegiant (astudio rhan amser am dair blynedd neu Safon Uwch ‘rydlyd’ yn yr iaith a astudiwyd). | D | Dylech chi fod yn meddu ar ddigon o iaith i ymdopi wrth sgwrsio, gyda geirfa ddigonol i ddeall pynciau fel teulu a diddordebau, gwaith, teithio a materion cyfoes. Dylech chi allu deall y prif bwyntiau mewn syniad neu broblem gyda manylder rhesymol. | Paratoi ar gyfer B1 |
Yn ddiweddar, rydych chi wedi cwblhau cymhwyster Safon Uwch yn yr iaith a astudiwyd ac rydych chi yn barod i fynd gam ymhellach (astudio’n rhan-amser am bedair blynedd neu Safon Uwch yn yr iaith a astudiwyd). | E | Dylech chi feddu ar ystod ddigonol o iaith er mwyn gallu deall disgrifiadau a dadleuon am y rhan fwyaf o bynciau sy’n ymwneud â theulu, hobïau a diddordebau, gwaith, teithio a digwyddiadau cyfoes. Dylech chi allu adnabod geiriau anghyfarwydd o gyd-destun pynciau sy’n ymwneud â’ch maes neu ddiddordebau. | Paratoi ar gyfer B1 |
Mae gennych chi wybodaeth dda iawn o’r iaith ac rydych chi am astudio cwrs ysgogol i gyfateb i’ch gallu a’i ymestyn (pum mlynedd o astudio'n rhan-amser neu gam E uwch). | F | Gydag ychydig o ymdrech, dylech chi allu cadw i fyny â thrafodaethau cyflym a thafodieithol. Dylech chi allu deall gwybodaeth fanwl yn hyderus. | Paratoi ar gyfer B1/B2 |
YMae gennych chi afael ardderchog ar yr iaith ac rydych chi’n ei defnyddio’n rheolaidd. Bydd y lefel hon yn gwella eich sgiliau iaith sy’n agos at fod at lefel famiaith (chwe blynedd o astudio’n rhan-amser neu gam F uwch). | G/H | Dylai fod gennych chi afael dda ar stoc eang o eirfa, ac ar ymadroddion idiomatig a llafar. Dylech chi allu deall iaith yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol, gan gynnwys defnydd emosiynol, awgrymog a direidus. | Paratoi ar gyfer B2/C1 |
Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch chi er mwyn penderfynu ar y cam i’w astudio, cysylltwch â’r canlynol: