Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu Antur

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae adrodd straeon wedi bod yn ymwneud ag antur erioed, o straeon epig cynnar fel yr Odyssey ac Iliad, i nofelau cyffrous modern, nofelau saga, cofiannau, a hyd yn oed ffuglen wyddonol.

Darganfyddwch beth sy'n gwneud stori afaelgar, elfennau sylfaenol plot a sut i ddatblygu cymeriadau argyhoeddiadol, cymhellol y byddwch chi a'ch darllenydd yn eu caru.

Byddwn yn archwilio genres niferus y ffurf ysgrifennu antur, yn darllen yn eang ar draws diwylliannau ac yn dysgu hanfodion adeiladu byd, p'un a ydych yn ysgrifennu o fywyd go iawn neu'n llwyr o'r dychymyg.

Mae croeso i awduron o bob profiad ddod i fentro i fyd ysgrifennu antur!

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog. Ar gyfer dosbarthiadau ar-lein, cynhelir dosbarthiadau trwy Zoom.

Dyma’r pynciau a allai fod o dan sylw:

  • Straeon epig a straeon traddodiadol
  • Nofelau cyffrous
  • Ffuglen Wyddonol
  • Ysgrifennu antur a genre (stori fer, nofel fflach, a chofiant)

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Bydd myfyrwyr yn cwblhau portffolio ysgrifennu creadigol ac yn ysgrifennu’n fyfyriol am eu proses eu hunain. Bydd y portffolio yn cynnwys tua 1500 o eiriau. Yn ogystal, mae tiwtor eich cwrs hefyd yn hyrwyddo Gwobr Ysgrifennu Antur Wilbur Smith, a bydd yn rhoi gwybod i chi am yr holl adnoddau a chyfleoedd ysgrifennu antur diweddaraf.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch yn cael ystod o ddarnau ac enghreifftiau perthnasol gan eich tiwtor cwrs.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.