Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu Heb Derfynau

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unrhyw un sydd wedi cwblhau un o'n cyrsiau ysgrifennu rhagarweiniol, fel Dechrau Ysgrifennu a Parhau i Ysgrifennu, neu os ydych chi am wella'ch sgiliau ysgrifennu ymhellach.

Mae’n rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am y grefft a magu mwy o hyder mewn sgiliau ysgrifennu.

Cewch eich addysgu mewn gweithdy yn bennaf, ynghyd â rhai darlithoedd a thrafodaethau. Bwriad y cwrs yw eich galluogi i barhau i ysgrifennu a magu hyder wrth rannu eich gwaith ysgrifenedig ag eraill.

Rhoddir mewnbwn lefel uwch er mwyn i chi ddatblygu ymhellach. Archwilir ysgrifennu ffuglen, ysgrifennu sgriptiau a barddoniaeth yn ystod y sesiynau.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Bydd y maes llafur yn cynnwys amrywiaeth o

  • ymarferion uwch
  • darllen a dadansoddi testunau
  • trafodaeth dan arweiniad tiwtor
  • rhannu gwaith myfyrwyr

Byddwch yn gallu archwilio genres megis

  • micro-ffuglen
  • y stori fer
  • y nofel
  • barddoniaeth
  • ysgrifennu ar gyfer y sgrîn, ysgrifennu dramâu a drama sain.

Bydd sesiynau hefyd yn cael eu llywio gan ddiddordebau myfyrwyr, gyda'r bwriad o annog myfyrwyr i wthio eu galluoedd ysgrifennu i'r lefel nesaf.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Byddwch yn cwblhau portffolio ysgrifennu creadigol ac yn ysgrifennu’n fyfyriol am eich proses eich hunain. Bydd y portffolio yn cynnwys tua 1500 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Efallai y bydd y testunau canlynol yn ddefnyddiol i fyfyrwyr fel cyflwyniadau:

  • The Idea – The Seven Elements of A Viable Story For Screen, Stage Or Fiction gan Erik Bork
  • Into The Woods, gan John Yorke
  • The Art of Dramatic Writing gan Lajos Egri
  • How To Be A Writer gan Barbara Baig

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.