Ewch i’r prif gynnwys

Sbaeneg i Ddechreuwyr – Cam A (Dwywaith yr wythnos)

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Nod y cwrs yw rhoi sylfaen i chi mewn strwythurau gramadegol sylfaenol Sbaeneg er mwyn cyfathrebu ar lefel sylfaenol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a goroesi hanfodol mewn gwledydd lle siaredir Sbaeneg.

Dyma'r pynciau fydd o dan sylw:

  • Cyfarchion a ffarwelio
  • cyflwyniadau/cyfarchion
  • siarad am eich hun a’ch teulu
  • gwledydd a chenhedloedd
  • swyddi/y diwrnod gwaith
  • archebu bwyd a diod
  • gofyn am gyfarwyddiadau/rhoi cyfarwyddiadau
  • archebu ystafell mewn gwesty; disgrifio lleoedd/pobl
  • amser
  • sôn am arferion dyddiol a siopa.

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y prif bwyntiau gramadegol sydd eu hangen arnoch ar y lefel hon a fydd yn cynnwys y canlynol:

  • mathau o enwau
  • ansoddeiriau meddiannol
  • yr wyddor/rhifau
  • ffurfiau berfol, yr amser presennol (rheolaidd/afreolaidd)
  • arddodiaid
  • cytuno ansoddeiriau
  • berfau atblygol.

Y gwerslyfr yw: R.M. Martin/M. Ellis, PASOS 1, (Penodau 1-7) Hodder & Stoughton, 3ydd argraffiad.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy'n ddechreuwyr llwyr o ran Sbaeneg, ac sy'n dymuno gallu cynnal sgwrs sylfaenol wrth deithio i wledydd sy’n siarad Sbaeneg.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Yr elfen bwysicaf o’r asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu, sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu yn ystod y cwrs. Yn ychwanegol at y sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.