Ewch i’r prif gynnwys

Gwella eich Pwyleg Cam B

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi bod i astudio Pwyleg i Ddechreuwyr, neu sy’n meddu ar rywfaint o wybodaeth am Bwyleg.

Bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau iaith ymhellach i'w galluogi i ymdrin â sefyllfaoedd bob dydd yng Ngwlad Pwyl, yn ymgymryd â Phwyleg ar lafal, yn glywedol ac yn ysgrifenedig.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Bydd y cwrs yn cynnwys:

Gramadeg

  • cyflyrau Pwyleg a ddefnyddir amlaf (enwol, genidol, gwrthrychol, lleoliadol ac offerynnol)
  • tri amser y ferf (amser presennol, gorffennol a dyfodol berfau amherffaith)
  • agweddau ar y ferf
  • un modd (mynegol)
  • berfau symud
  • rhai problemau geiriadurol.

Cyfathrebu

  • adnabod pobl a gwrthrychau
  • cyfarch a ffarwelio
  • mathau o gysylltiad rhyngbersonol yn Bwyleg
  • disgrifio galluoedd mewn ieithoedd tramor
  • mynegi syndod a siom
  • gwneud awgrymiadau ac ymateb iddynt
  • gwahodd pobl a derbyn gwahoddiadau
  • annog pobl i fwyta ac yfed mewn sefyllfaoedd cymdeithasol
  • archebu neu brynu nwyddau
  • gwahanol ffyrdd o ddweud yr amser.

Diwylliant

  • gwybodaeth am y dinasoedd a'r rhanbarthau mwyaf yng Ngwlad Pwyl
  • peth gwybodaeth am allfudo'r Pwyliaid ar draws y byd
  • diwrnodau gŵyl cyhoeddus Gwlad Pwyl (crefyddol a'r wladwriaeth)
  • peth gwybodaeth am ffigurau cyhoeddus cyfredol.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y cewch brofion dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu traethodau gartref.

Mae ein hasesiadau’n hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Wladyslaw Miodunka; Czesc, jak sie masz? Part I: Spotkamy sie w Polsce
  • Level A1  Introduction to Polish.(Breakthrough), Universitas, Krakow, 2005.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.