Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno Groeg Hynafol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

A fu erioed arnoch awydd darllen gweithiau awduron, haneswyr a meddylwyr Hen Wlad Groeg yn eu hiaith wreiddiol?

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i gymryd y camau cyntaf ar y daith i ddarllen a chyfieithu Groeg Hynafol. Wedi'i fwriadu ar gyfer dechreuwyr pur, bydd y cwrs yn eich cyflwyno i wyddor, geirfa a gramadeg tafodiaith Atig Groeg Hynafol, gan ddarparu'r sylfaen ar gyfer astudio'r iaith fel y cafodd ei defnyddio gan awduron fel Thucydides a Plato.

Byddwch yn dysgu darllen a chyfieithu brawddegau Hynafol Roeg syml, gan adeiladu sgiliau i alluogi astudiaeth bellach o'r Hen Roeg yn ei gwahanol dafodieithoedd ac o gyfnodau gwahanol, a darparu'r sylfaen tuag at y nod eithaf o ddarllen y testunau hynafol yn eu hiaith wreiddiol, ac astudio ysgrifenwyr fel Herodotus neu Homer yn y dyfodol.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno trwy wyth sesiwn 2 awr ar-lein, a 4 awr o gynnwys wedi'i recordio’n anghydamserol. Bydd sesiynau ar-lein yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau tiwtoriaid, trafodaeth dosbarth a gwaith grŵp ar elfennau penodol y modiwl. Bydd trafodaethau a'r darlithoedd anghydamserol hyn yn cael eu hategu gan yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr ar Dysgu Canolog.

Cynnwys y maes llafur:

  • Astudio Groeg Hynafol:
    • technegau a dulliau
    • yr wyddor
    • ynganiad
  • Cyflwyniad i iaith a gramadeg Groeg Hynafol
    • Geiriau a sut maent yn newid (gwyriad, cyflyrau)
    • Adeiladu brawddegau: o enwau i ansoddeiriau a berfau (a'u lleisiau, amserau, a'u moddau)
    • Ychwanegu at frawddegau: arddodiaid a gronynnau
  • Darllen a chyfieithu testunau Groeg Hynafol sylfaenol

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd y modiwl yn cael ei asesu trwy farc cyfranogiad sy'n adlewyrchu ymgysylltiad â thasgau dosbarth ar draws y modiwl, a thrwy bortffolio o dasgau gwaith cartref a gwblheir ar draws y modiwl.

Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddwy elfen o asesu.

Deunydd darllen awgrymedig

  • An Independent Study Guide to Reading Greek, 2nd edition, Joint Association of Classical Greek Teachers (Cambridge: Cambridge University Press, 2008) 
  • H. Hansen a G.M. Quinn, Greek: An Intensive Course, 2nd revised edn (Efrog Newydd: Fordham University Press, 1992)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.