Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy Ysgrifennu Dramâu

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Sut mae deialog yn ffurfio cymeriad? Pam mae tawelwch a seibiannau mor bwysig mewn drama?

Ddysgir y modiwl hwn mewn cyfres o weithdai ymarferol, a byddwch yn dysgu am egwyddorion sylfaenol ysgrifennu dramâu, o feithrin syniad i ddatblygu cymeriadau cryf.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg gweithdy 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Cynnwys y maes llafur

Bydd y cwrs yn cael ei arwain gan weithdai, gyda ffocws ar fynd ar drywydd ddiddordebau personol y myfyrwyr. Mae'r cwrs yn debygol o edrych ar feysydd fel:

  • Datblygu syniad
  • Darganfod eich llais
  • Strwythuro plot
  • Datblygu cymeriadau
  • Genre
  • Deall gweithredu dramatig
  • Ysgrifennu deialog effeithiol
  • Seibiannau a thawelwch
  • Delweddu'r llwyfan
  • Fformatio sgript drama
  • Theatr gyfoes yng Nghymru

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Ar gyfer yr asesiad, byddwch yn cynhyrchu portffolio o sgriptiau, gan gynnwys cydran myfyriol. Bydd portffolios yn cyfateb i gyfanswm o 2,000 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd y tiwtor yn darparu rhestr ddarllen lawn.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.