Ewch i’r prif gynnwys

Artistiaid a Gerddi

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae gerddi bob amser wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i artistiaid. Yn yr oes fodern, enillodd yr 'artist-arddwr' ei blwyf, a daeth arlunwyr yn arddwyr.

Gwnaeth cariad yr artist at erddi greu cyfleoedd newydd i arbrofi gyda lliwiau, themâu ac emosiynau, wrth i'r ardd ddod yn amlwg fel pwnc pwysig mewn celf fodern.

Astudir gerddi artistiaid, awduron a cherflunwyr trwy gydol hanes yr ardd a’r gerddi maen nhw'n eu creu, paentio, neu'n ysgrifennu amdanynt. Trafodir gerddi sy'n adnabyddus yn ogystal ag ychydig o erddi preifat, ac edrychwn ar nifer o'r rhain ledled Prydain Fawr, Ewrop ac America.

Awn ar deithiau mawr, a fydd yn cynnwys nifer o bethau annisgwyl, o amgylch gerddi a grëwyd gan arlunwyr, awduron, ffotograffwyr a cherflunwyr.

Dadansoddir gerddi mewn celf ac mewn gwaith ysgrifenedig, yn ogystal â'u pwysigrwydd drwy gydol hanes yr ardd a'r dirwedd.

Mae'r syniad o’r ‘Ardd Gudd' yn parhau i fod yn gyffredin mewn sawl ffurf artistig. Rydym yn trin a thrafod hyn gan gyfeirio at erddi artistiaid a'u 'noddfa' nhw, yn ogystal â'r cynrychioliadau artistig eu hunain.

Rydym yn astudio llawer o liw-wyr dŵr mawr yr oes Edwardaidd, eu harwyddocâd yn nyddiau cynnar ffotograffiaeth wrth gofnodi llawer o erddi ac, mewn rhai achosion, y gerddi yr oeddent hwy eu hunain yn ymwneud â nhw.

Ystyrir gerddi traddodiadol a chyfoes trwy gydol y cwrs ac rydym yn cadw llygad ar y crewyr gerddi modern hynny sy'n creu rhai o'r gerddi mwyaf cyffrous ar hyn o bryd.

Dysgu ac addysgu

Bydd darlithoedd, astudiaethau achos a thrafodaethau grŵp.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u meithrin neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu cyrraedd ym mhob cwrs a phwnc. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd nodiadau ac awgrymiadau ar gyfer llyfrau priodol yn cael eu rhannu gan y tiwtor yn y sesiwn gyntaf.

  • Jane Brown, The English Garden Through the Twentieth Century (Garden Art Press, 1999) Jane Brown, The Modern Garden (Thames and Hudson, 2000)
  • Jackie Bennett, The Writer's Garden: How Gardens Inspired our Best-loved Authors (Frances Lincoln , 2 Oct 2014)
  • Katie Campbell, British Gardens in Time: The Greatest Gardens and the People Who Shaped Them (Frances Lincoln, 27 Mar 2014))
  • Bill Laws, Artists' Gardens (Cassell Illustrated, 1 Feb 2000)
  • George Plumptre, The Gardens of England: Treasures of the National Gardens Scheme, (Merrell Publishers Ltd 2013)
  • Tim Richardson, The New English Garden (Frances Lincoln, 2013)
  • Victoria Summerley; Secret Gardeners: Britain's Creatives Reveal Their Private Sanctuaries (Frances Lincoln (5 Oct. 2017)
  • Sir Roy Strong, Remaking a Garden- The Laskett Transformed (Frances Lincoln, 15 May 2014) Sir Roy Strong, The Artist and the Garden (Yale University Press 7 Oct 2005)
  • Tom Turner, British Gardens. History, Philosophy and Design (Routledge 2013)
  • Andrew Wilson, Influential Gardens: the designers who shaped 20th-century garden style. (London: Mitchell Beazley 2002)
  • Christopher Wood, Painted Gardens (Pavilion Books 1998).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.