Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Rwsieg

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Nod y cwrs hwn yw rhoi sylfaen ichi o ran strwythurau gramadegol elfennol Rwsieg er mwyn cyfathrebu ar lefel sylfaenol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol a gallu goroesi yn Rwsia.

Er y bydd y pwyslais ar siarad, byddwch chi hefyd yn dysgu’r wyddor a strwythurau gramadegol a phatrymau brawddegol sylfaenol, sef y seiliau sydd eu hangen i wneud cynnydd pellach mewn Rwsieg.

Byddwch chi’n dysgu darllen negeseuon, llythyrau a thestunau sylfaenol, deall deialogau go iawn a llunio eich deialogau eich hun mewn grŵp a/neu waith pâr yn ystod y dosbarth. Byddwch chi’n cwblhau’r ymarferion ysgrifenedig gartref.

I bwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi os ydych chi’n ddechreuwr pur ac eisiau darllen arwyddion/mapiau/cynlluniau'r metro a chynnal sgwrs sylfaenol iawn pan fyddwch chi’n teithio i Rwsia.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r pwyslais ar gymryd rhan, a chewch eich annog i gymryd rhan yn y dosbarth mewn nifer o weithgareddau sydd heb fod yn fygythiol ac sy’n helpu’r dysgwyr i gyfathrebu â’i gilydd.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, mae’n rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi eu hennill neu eu gwella. Mae’n rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ni ei dangos i’r arholwyr allanol er mwyn bod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cadw ym mhob cwrs a phwnc.

Fydd dim arholiadau ffurfiol, ond mae’n bosibl y bydd profion darllen a gwrando yn y dosbarth. Efallai y gofynnir ichi ysgrifennu testunau byr yn waith cartref. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs ac i chi.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Diben ein dulliau yw meithrin eich hyder a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i ffyrdd o’ch asesu sy’n hwyl ac yn gweddu i fywyd prysur oedolion.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.