Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu Sgiliau Cwnsela

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r cwrs yn darparu hyfforddiant sylfaenol yn y defnydd o sgiliau cwnsela i'w defnyddio mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd personol ac yn y gwaith.

Mae’n canolbwyntio ar wella eich sgiliau cyfathrebu a chodi hunanymwybyddiaeth bersonol.

Nid yw'n hyfforddiant ar gyfer bod yn ‘Gwnselydd’ ond gall roi cipolwg i chi ar sut brofiad fyddai ymgymryd â hyfforddiant o’r fath.

Mae'r cwrs yn arbrofol ac yn hynod ymarferol. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymarfer defnyddio sgiliau cwnsela bob wythnos mewn grwpiau bach, ynghyd â chyflwyniad i theori cwnsela.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn ennill sgiliau sylfaenol mewn cwnsela.

Dysgu ac addysgu

Bydd myfyrwyr yn gallu:

  • Dangos eu bod wedi myfyrio ynghylch eu datblygiad personol gan ganolbwyntio’n benodol ar gysyniadau sylfaenol cwnsela.
  • Gwneud y cysylltiad clir rhwng damcaniaeth ac ymarfer cwnsela.
  • Cofnodi trawsnewidiadau a cherrig milltir personol a gyflawnwyd.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.

Dyma’r asesiad ar gyfer y cwrs hwn:

Bydd y myfyrwyr yn cwblhau dyddiadur myfyriol fydd yn dangos tystiolaeth o'u dysgu bob wythnos. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.