Ewch i’r prif gynnwys

Bydoedd Gothig: Arswyd, Hanes a Chelf

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Rhan o'n delwedd o’r ‘gothig' yw arwyr gofidus a fampirod siriol, ac mae traddodiadau 'diwylliant gothig' wedi bod mor gadarn fel y gellir teimlo eu dylanwad heddiw mewn ffilmiau a ffantasi, gemau, cosplay a dewisiadau o ran ffordd o fyw.

Mae ein diddordeb mewn fampirod, bleidd-ddynion a dewiniaid cynllwyngar yn dyst i ddychymyg pobl a'n llawenydd yn yr annaearol.

Yn y modiwl hwn, byddwch yn cael cyflwyniad i'r ffyrdd niferus y mae themâu amlddiwylliannol gothig wedi effeithio ar ddiwylliant poblogaidd, a sut mae'r gothig yn cynnwys ystod eang o ffynonellau a dylanwadau. Byddwch yn archwilio tarddiad a datblygiad y gothig mewn diwylliant a chelfyddyd boblogaidd, ac yn archwilio gwaith gan awduron fel y Brontës, Bram Stoker, Mary Shelley ac Anne Rice.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr drwy Zoom, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog, gan gynnwys recordiadau darlithoedd.

Dyma’r pynciau a allai fod o dan sylw:

  • Y Gothig Hanesyddol yn ei gyd-destun a'i ddylanwad parhaus
  • Trosiadau gothig mewn pensaernïaeth a chelf
  • Y byd canoloesol a'r dychymyg gothig
  • Ffurfiau Gothig Newydd – Y Gothig Imperial, Gothig Arswyd ac ati.
  • Rhywedd ac ymwrthedd mewn llenyddiaeth gothig
  • Cymeriadau gothig o fampirod i seiborgiaid llofruddiol
  • Diwylliant gothig ac arddull gothig gyfoes
  • Cwsg, Hypnosis a Bedlam fel mannau gothig
  • Gemau, llyfrau a digwyddiadau cosplay: cynwyddoli’r byd gothig
  • Arolwg o gelf a ffilm gothig

Gwaith cwrs ac asesu

To award credits we need to have evidence of the knowledge and skills you have gained or improved. Some of this has to be in a form that can be shown to external examiners so that we can be absolutely sure that standards are met across all courses and subjects.

The most important element of assessment is that it should enhance your learning. Our methods are designed to increase your confidence and we try very hard to devise ways of assessing you that are enjoyable and suitable for adults with busy lives.

You will complete two written assignments for this course. You will write approximately 1500-2000 words in total.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Byddwch yn cwblhau dau aseiniad ysgrifenedig ar gyfer y cwrs hwn. Byddwch yn ysgrifennu cyfanswm o tua 1500-2000 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Darllen Hanfodol:

  • Fred Botting, Gothic London (Efrog Newydd, 1996)
  • Derek Brewer, English Gothic Literature (Llundain, 1983)
  • Jacqueline Howard, Reading Gothic Fiction (Rhydychen, 1994)
  • Darryl Jones, Horror: A Thematic History in Fiction and Film (Llundain, 2002)
  • Marie Mulvey-Roberts, The Handbook to Gothic Literature (Basingstoke, 1998)
    Victor Sage (gol.), The Gothick Novel: A Casebook (Basingstoke, 1990)
  • William Hughes, David Punter ac Andrew Smith (goln.), The Encyclopaedia of the Gothic (Chichester, 2012)

Darllen cefndir a argymhellir

  • William Patrick Day, In the Circles of Fear and Desire: A Study of Gothic Fantasy (Chicago a Llundain, 1985)
  • Alan Dundes (gol.), The Vampire: A Casebook (Madison, 1998)
    Ken Gelder, Reading the Vampire (Llundain ac Efrog Newydd, 1994)
  • Mark Edmundson, Nightmare on Main Street: Angels, Sadomasochism, and the Culture of Gothic (Caergrawnt, Mass. 1997)
  • William Hughes, Beyond Dracula: Bram Stoker's Fiction and its Cultural Context (Basingstoke, 2000)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.