Y Cyfryngau, Diwylliant a’r Gymdeithas yn yr Eidal Gyfoes
Tiwtor | Dr Luca Paci |
---|---|
Côd y cwrs | ITA24A5563A |
Ffi | £445 |
Ffi ratach | £356 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Yn y modiwl hwn, byddwn ni’n trin a thrafod y berthynas ddeinameg rhwng y cyfryngau, diwylliant a’r gymdeithas yn yr Eidal gyfoes.
Bydd y modiwl hwn yn ymchwilio i’r canlynol: sut y mae tirwedd y cyfryngau yn yr Eidal wedi datblygu; y gwerthoedd a’r normau diwylliannol a gaiff eu hadlewyrchu yng nghynnwys y cyfryngau; a’r effaith ar gymdeithas y mae cynhyrchu’r cyfryngau a’u defnyddio yn ei chael.
Bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth gynnil o'r rhyngweithio cymhleth rhwng diwydiant y cyfryngau yn yr Eidal, ei dreftadaeth ddiwylliannol, a'r newidiadau cymdeithasol ehangach sy'n digwydd yn y wlad. Addysgir y cwrs drwy gyfrwng yr Eidaleg.
I bwy mae’r cwrs hwn?
Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr a chanddynt sgiliau iaith datblygedig (Safon Uwch neu uwch) sy'n gallu cynnal sgwrs gyffredinol yn Eidaleg.
Addysgir y cwrs drwy gyfrwng yr Eidaleg.
Dysgu ac addysgu
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.
Gwaith cwrs ac asesu
Prawf gwrando a chymryd rhan yn y dosbarth. Mae ein hasesiadau’n hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’ch dysg.
Mae ein dulliau’n ceisio rhoi hyder i chi, ac rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn addas i oedolion prysur.
Deunydd darllen awgrymedig
Darperir deunyddiau - bydd taflenni ac adnoddau ar gael ar Dysgu Canolog.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.