Ewch i’r prif gynnwys

Heneiddio a'r Cof: Ymagwedd Lenyddol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Rydym bellach yn byw mewn byd lle mae bywydau'n para dipyn yn hirach na rhai'r cenedlaethau blaenorol.

Mae newidiadau mewn gofal meddygol, y bwyd a fwytawn a natur ein gwaith wedi arwain at newidiadau yng ngwneuthuriad ein cymdeithas. Rydym yn tyfu'n hŷn.

Mae'r modiwl hwn yn trin a thrafod ystyr ysgrifennu am heneiddio a'r cof drwy ffuglen a gwaith ffeithiol-greadigol. Mae’n archwilio’r mathau o ymadroddion a delweddau sy’n ailymddangos mewn testunau sy’n dychmygu ac yn archwilio gwahanol fathau o brofiadau, o’r syniad o dyfu’n hŷn i fyw bywyd llawn.

Byddwch yn archwilio syniadau gerontoleg llenyddol yng nghyd-destun nofelau, straeon byrion, hunangofiant a chofiant.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael ar Dysgu Canolog..

Ymhlith y pynciau a drafodir y mae:

  • menywod a heneiddio
  • cof a hunaniaeth
  • llenyddiaeth oed mawr
  • henaint mewn ysgrifennu Cymreig mewn Saesneg
  • heneiddio, y cof, a bildungsroman
  • nesáu at heneiddio o wahanol ddiwylliannau.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Byddwch yn cynhyrchu portffolio o waith ysgrifennu o tua 1600 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Diana Athill, Somewhere towards the end (2008)
  • Nora Ephron, I remember Nothing (2010)
  • Atul Gawande, Being Mortal: Illness, Medicine and What Matters in the End (2014)
  • Emyr Humphreys, Old People are a Problem (2003)
  • Wendy Mitchell, Somebody I Used to Know (2018)
  • Deborah Moggach, These Foolish Things [Retitled as The Best Exotic Marigold Hotel] (2004, 2012)
  • Allen Raine, ‘Home Sweet Home’ and Margiad Evans’s ‘The Old Woman and the Wind,’ in A View Across the Valley (Honno, 1999)
  • Ellie Rees, ‘Blurred Boundaries’ (New Welsh Review, 108, 2015)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.