Ewch i’r prif gynnwys

Y Cyfryngau a Fi: Rhywedd, Rhywioldeb a Hunaniaeth

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae diffiniad rhywedd a rhywioldeb yn hyblyg dros ben ac yn newid yn barhaus, gyda'r cyfryngau’n chwarae rôl allweddol wrth siapio, cynrychioli a pherfformio’r diffiniadau hyn.

Mae’r amrywiaeth o gwestiynau a ystyrir yn y modiwl hwn yn cynnwys:

  • A yw dynion a menywod yn cynhyrchu gwahanol fathau o newyddion?
  • Ydym ni’n gweld diwylliant yn rhywioli ar hyn o bryd?
  • Beth mae’r greadigaeth o rywedd a rhywioldeb yn y cyfryngau’n ei ddweud wrthym am ein hunain?

Ei nod yw eich helpu i ddatblygu eich ymwybyddiaeth o amrywiaeth o bynciau sy'n berthnasol i'r cyfryngau, rhyw a rhywioldeb. Bydd y modiwl yn cwmpasu materion fel rhywedd yn y newyddion, gwrywdod mewn ffilmiau a chreu rolau rhywedd mewn hysbysebu.

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio’r cyfryngau a diwylliant, a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach.

Mae’n rhan o’r Llwybr at Radd yn y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant,  a bydd yn eich arfogi â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr. Ond mae hwn hefyd yn gwrs annibynnol, sy’n cynnig y cyfle i feddwl am rôl y cyfryngau yn ein bywydau bob dydd.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys naw uned. Mae pob uned sesiwn wyneb yn wyneb ddwy awr o hyd. Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau a dadleuon dosbarth, gwaith pâr a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd. Bydd yna hefyd bwyslais cryf ar ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, wedi’i hwyluso gan Rith-amgylchedd Dysgu’r Brifysgol, Dysgu Canolog.

Gwaith cwrs ac asesu

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys dau ddarn byr o waith cwrs a ddylai, gyda’i gilydd, ddod i oddeutu 1500 o eiriau. Mae'r darnau hyn o waith wedi cael eu cynllunio’n benodol i’ch helpu i ddatblygu sgiliau a dulliau astudio llwyddiannus. Bydd y darn cyntaf o waith yn eich helpu i roi eich syniadau ar bapur, a bydd yr ail ddarn o waith yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau dealltwriaeth. Bydd yna lawer o gymorth ar gael i'ch helpu gyda’r aseiniadau hyn.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Beynon, J. (2002) Masculinities and Culture, Buckingham: Open University Press. Carter, C.,
  • Steiner, L. a McLaughlin, L. (gol.) (2014) The Routledge Companion to Media and Gender, London: Routledge.
  • Gill, R. (2007) Gender and the Media, Cambridge: Polity.
  • Pilcher, J. a Whelehan, I. (2004) 50 Key Concepts in Gender Studies, London: Sage.
  • Urwin, J. (2016) Man Up: Surviving Modern Masculinity, London: Icon Books.
  • Watson, E. (gol.) (2009) Pimps, Wimps, Studs, Thugs and Gentlemen: Essays on Media Images of Masculinity, Jefferson, NC: McFarland & Co.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.