Ewch i’r prif gynnwys

Cerddoriaeth Boblogaidd, Diwylliant a Chymdeithas

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Hyd 9 cyfarfod wythnosol
Tiwtor Dr Danijela Spiric Beard
Côd y cwrs MED23A5070A
Ffi £249
Ffi ratach £199 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

Cwrs ar-lein

Pam fod cerddoriaeth boblogaidd mor bwysig i ni?

Sut a pham mae cerddoriaeth boblogaidd yn ystyrlon i ni mewn ffyrdd penodol yn ein bywydau bob dydd? Sut ydym yn defnyddio cerddoriaeth i ddeall ein hunaniaethau personol, a rhai pobl eraill?

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i fynd i'r afael â'r cwestiynau hyn ac yn ceisio eu harchwilio o amrywiaeth o safbwyntiau.

Bydd y prif themâu yn cynnwys meddwl ac ysgrifennu'n feirniadol am gerddoriaeth, arwyddocâd emosiynol cerddoriaeth, y defnydd o gerddoriaeth mewn diwylliant poblogaidd ac yn y cyfryngau, ac effaith digideiddio ar ein hymgysylltiad â cherddoriaeth.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y cwrs drwy naw sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog. Bydd yr addysgu ar-lein ac mae'n debygol o gael ei gynnal trwy Zoom.

Mae pynciau yn debygol o gynnwys:

  • cerddoriaeth boblogaidd a hunaniaeth: pam mae cerddoriaeth yn bwysig?
  • cerddoriaeth boblogaidd mewn diwylliant a chymdeithas
  • defnyddiau o gerddoriaeth boblogaidd ym mywyd bob dydd
  • cerddoriaeth boblogaidd a'r cyfryngau
  • fideo, geiriau a cherddoriaeth boblogaidd
  • cynulleidfaoedd cerddoriaeth a chefnogwyr cerddoriaeth
  • cerddoriaeth boblogaidd, rhywedd a rhywioldeb
  • hil, ethnigrwydd a cherddoriaeth boblogaidd
  • cerddoriaeth boblogaidd yn y ffilmiau.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Bydd myfyrwyr yn cwblhau portffolio o waith ysgrifenedig, gan gynnwys dadansoddiadau byr a thraethodau. Bydd y portffolio yn cynnwys tua 1500 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Mae’n bosibl y bydd y testunau canlynol yn ddefnyddiol fel cyflwyniadau ond darperir rhestr ddarllen lawn ar ddechrau’r modiwl. Ni ddylech gychwyn ar unrhyw ddarlleniad helaeth heb ymgynghori â thiwtor y modiwl yn gyntaf.

  • Brabazon, T. (2012) Popular Music: Topics, Trends, Trajectories. Llundain a California: Sage
  • DeNora, T. (2000) Music in Everyday Life. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt
  • Klein, B. (2009) As Heard on TV: Popular Music and Advertising. Aldershot: Ashgate
  • Shuker, R. (2008) Understanding Popular Music (2il argraffiad). Llundain ac Efrog Newydd Routledge
  • Wall, T. (2003) Studying Popular Music Culture. Llundain: Hodder a Stoughton
  • Wikström, P. (2009) The Music Industry: Cerddoriaeth yn y Cwmwl. Caergrawnt: Polity

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.