Ewch i’r prif gynnwys

Hanesion Gothig: Yr Oesoedd Canol, Y Dadeni a Thu Hwnt

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae adroddiadau dychmygol o ddigwyddiadau hanesyddol, ynghyd ag awyrgylch arswydus y byd gothig, wedi dod yn thema boblogaidd mewn diwylliant cyfoes.

O angenfilod yn y byd clasurol i ffantasïau gothig trefol am olygfeydd ôl-ddiwydiannol, mae’r ‘noson dywyll a stormus’ wedi dod yn gyflwyniad i sawl nofel a ffilm, ac wedi cael cryn ddylanwad ar genres mwy diweddar fel gemau a llyfrau comic.

Mewn rhyddiaith a barddoniaeth, mae fampirod, ysbrydion, a dihirod sinistr wedi mynd ar drywydd y diniwed, a phan ychwanegir cymeriadau a digwyddiadau at hyn oll, ceir amrywiaeth hynod ddiddorol o hanes amgen a ffantasi dywyll.

Bydd y modiwl hwn yn trin a thrafod gwreiddiau a datblygiad y cyfuniad hwn o’r real a’r anghyffredin, gan roi’r cyfle i chi gwestiynu’r ffordd y mae credoau am ffenomena goruwchnaturiol a rhyfedd yn cyd-blethu â dehongliadau poblogaidd o hanes. Byddwn yn ystyried sut yr amlygir hyn mewn diwylliant cyfoes drwy ystod eang o gyfryngau a dewisiadau o ran ffordd o fyw. Byddwn yn cyfeirio at enghreifftiau o lenyddiaeth, llên gwerin, archaeoleg, a chelf er mwyn deall yr elfennau amrywiol a gyfrannodd at dwf y thema ddiwylliannol tra dylanwadol hon.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl mewn naw sesiwn 2 awr o hyd. Bydd y sesiynau'n gymysgedd o ddarlithoedd, adnoddau clyweledol, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl.

Bydd y trafodaethau a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd. Bydd disgwyl i fyfyrwyr hefyd ddarllen deunydd perthnasol wedi’i argraffu a defnyddio hynny’n sail ar gyfer cyfrannu yn y dosbarth. Bydd trafodaethau a'r darlithoedd yn cael eu hategu gan yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr ar Dysgu Canolog.

Maes Llafur:

  • Cyflwyniad: Ysgrifennu Hanesyddol a'r Gothig
  • Ffantasïau Canoloesol mewn Ffuglen Fodern
  • Yr Eidal fel Golygfa Gothig ym Myd Shakespeare a'i gyfoedion
  • Bleiddeist a'r Benywaidd-Ddiafolaidd
  • Y Gothig Trefol a Pheryglon Trefoli
  • Ail-ddychmygu'r Byd Trefedigaethol
  • Hwylio drwy’r Dyfroedd Tywyll
  • Angenfilod Hen a Newydd
  • Hanesion Gothig yng Nghasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • adolygiad beirniadol byr
  • traethawd 1000 gair.

Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Kevin Corstophine a Laura R. Kremmel (goln.), The Palgrave Companion to Horror Literature (Cham, Y Swistir: Palgrave Macmillan, 2018).
  • Jerome De Groot, The Historical Novel (Llundain ac Efrog Newydd: Routledge, 2010)
  • Robert Milhall, A Geography of Victorian Gothic Fiction: Mapping History’s Nightmares (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1999)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.