Technoleg a’r Byd Digidol
Hyd | 10 o gyfarfodydd wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Dr Jo Smedley | |
Côd y cwrs | BAM23A5151A | |
Ffi | £186 | |
Ffi ratach | £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | 50-51 Plas y Parc |
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r gweithiwr busnes proffesiynol uchelgeisiol i dri maes sy'n cynnwys defnyddio gwybodaeth sy'n debygol o fod yn hanfodol i'w bywyd gwaith yn y dyfodol.
- Yn gyntaf, mae gwybodaeth yn agwedd bwysig iawn ar y byd modern y cyfeirir ato'n aml fel y gymdeithas wybodaeth fyd-eang. Byddwn yn ystyried ffyrdd y mae gwybodaeth yn sail i weithgareddau sefydliadol o safbwyntiau strategol, tactegol a gweithredol a'r sgiliau TG cysylltiedig sy'n ddefnyddiol.
- Yn ail, mae sefydliadau'n sefydlu Systemau Gwybodaeth i reoli eu gweithgareddau ac fel sail ar gyfer newid a gwella eu gweithrediadau. Byddwn yn ystyried nifer o systemau gwybodaeth nodweddiadol o fewn busnes sy'n hybu eu gweithrediad. Byddwn hefyd yn trafod ffyrdd y mae systemau gwybodaeth yn hanfodol bwysig ar gyfer rheoli gweithgareddau a pherthnasoedd â rhanddeiliaid allanol megis cwsmeriaid, cyflenwyr a phartneriaid.
- Yn drydydd, defnyddir Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i gynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd systemau gwybodaeth ac arferion busnes. Adlewyrchir llawer o'r ffordd y mae busnes modern yn gweithio yn ei ddefnydd o TGCh a chymwysiadau TGCh. Byddwn yn trafod mewn termau busnes seilwaith TGCh cwmni nodweddiadol a thueddiadau posibl yn y dyfodol.
Dysgu ac addysgu
Addysgir y cwrs hwn trwy gyfuniad o ddarlithoedd a sesiynau mewn grwpiau bach.
Ar ôl llwyddo yn y modiwl, dylai myfyriwr allu:
Gwybod a Deall:
- Gwahaniaethu rhwng data a gwybodaeth a deall y berthynas rhwng gwybodaeth a gweithgarwch o fewn sefydliadau;
- Deall y rôl y mae technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn ei chwarae yn y busnes modern;
- Archwilio potensial trawsnewidiol TGCh yn yr amgylchedd busnes cyfoes;
- Disgrifio'r ffyrdd y mae TGCh yn effeithio ar systemau economaidd, systemau cymdeithasol, systemau gwleidyddol a systemau ffisegol.
Gwaith cwrs ac asesu
Asesir y modiwl drwy asesiad ysgrifenedig.
Deunydd darllen awgrymedig
- Beynon-Davies, P. 2013. Business information systems. 2nd ed. Basingstoke: Palgrave Macmillan
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.