Ewch i’r prif gynnwys

Cyfraith Defnyddwyr ac Ymarfer

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Faint ohonom sy’n ymwybodol o’n holl hawliau a’n cyfrifoldebau cyfreithiol?

Mae pob un ohonom yn prynu nwyddau a gwasanaethau yn rheolaidd a gallwn fod yn delio â chwsmeriaid yn y gwaith neu’n mwynhau prynu a gwerthu nwyddau ar-lein neu mewn arwerthiannau cist car yn ein hamser sbâr.

Mae’r cwrs ar-lein hyblyg hwn yn edrych ar hanfodion agweddau cyfreithiol ac ymarferol trafodion defnyddwyr a busnes, ac yn cynnig awgrymiadau a chanllawiau ymarferol drwy gydol hyd y cwrs i’ch helpu i wella eich proses o wneud penderfyniadau a datrys anghydfodau.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr fyddai'n hoffi astudio ar-lein.

Dysgu ac addysgu

Caiff y cwrs hwn ei addysgu ar-lein gyda digon o fewnbwn gan eich tiwtor. Drwy wneud defnydd o Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol bydd gennych gyfle i gynnal trafodaethau â myfyrwyr eraill.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Caiff yr holl waith cwrs ei gyflwyno ar-lein.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion yn y dosbarth. Efallai y byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu aseiniadau, cadw dyddiadur am y cwrs, neu lunio portffolio. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Ar Amgylchedd Dysgu Rhithwir y cwrs.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.