Ewch i’r prif gynnwys

“ar gyfer Cymru, Gweler Lloegr”? Hanes a Hunaniaeth Genedlaethol yng Nghymru'r 19eg Ganrif

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Trawsnewidiodd y bedwaredd ganrif ar bymtheg Gymru o fod yn rhanbarth ymylol o’r Deyrnas Unedig i fod yn genedl a oedd yn dechrau canfod ei llais a’r dewrder i’w arddel ei hun, o fewn Ynysoedd Prydain a thu hwnt.

Byddwn yn archwilio datblygiad Cymru ac ymddangosiad ei hunaniaeth genedlaethol ar hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan archwilio datblygiadau amaethyddol a diwydiannol a ail-luniodd economi Cymru, a newidiodd y dirwedd, ac a arweiniodd at newid cymdeithasol seismig sydd wedi arwain rhai haneswyr i gyfeirio at Gymru fel cenedl proletariat gyntaf y byd.

Ar y daith hon drwy gymdeithas, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, byddwn yn mynd i mewn i fywydau’r bobl, gan archwilio galwedigaethau, tai, addysg, crefydd, hamdden a chwaraeon. Byddwch yn darganfod sut y bu i newidiadau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg effeithio ar bob agwedd ar fywyd yng Nghymru a rhoi genedigaeth i’r genedl fodern yr ydym yn ei hadnabod heddiw.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu dros naw sesiwn dwy awr o hyd, ac yn cynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai.

Bydd y sesiynau hyn yn digwydd ar ffurf darlith awr o hyd gyda thrafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol yn ymwneud â'r modiwl yn dilyn hynny, bob tro.

Bydd y trafodaethau a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac i gyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.

Maes Llafur:

  1. Cyflwyniad: Pryd oedd Cymru?
  2. Datblygiadau Economaidd: Amaethyddiaeth
  3. Datblygiadau Economaidd: Byd Diwydiant
  4. Datblygiadau Cymdeithasol: Cenedl Broletariaidd Gyntaf y Byd?
  5. Trefoli: Abertawe, Merthyr a … dyma Gaerdydd ar y gorwel
  6. Deffroad Gwleidyddol
  7. Crefydd a Diwylliant
  8. Perthynas Eingl-Gymreig
  9. Cymru, yr Ymerodraeth Brydeinig, a'r Byd Ehangach
  10. I gloi: Arwyddocâd y 19eg Ganrif mewn Hunaniaeth Gymreig Fodern

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • Dadansoddiad byr o ffynonellau
  • Traethawd 1000 gair.

Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • John Davies, A History of Wales, revised edn (Llundain: Penguin, 2007)
  • D. Gareth Evans, A History of Wales, 1815-1906 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1989).
  • Philip Jenkins, Hanes y Gymru Fodern, 1536-1990 (Llundain: Longman, 1992)
  • Gwyn A. Williams, When Was Wales? A History of the Welsh (Llundain: Penguin, 1985)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.