Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy Addasu Cerddoriaeth Ar-lein

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r cwrs hwn yn cynnig cymorth personol o bell ar ffurf tiwtorialau (fel arfer drwy e-bost) i addaswyr cerddoriaeth newydd a phrofiadol sydd eisiau ymgymryd â’u prosiectau eu hunain.

Bydd yr astudiaeth yn cael ei theilwra i anghenion unigol y myfyriwr. Anelir y cwrs yn bennaf at fyfyrwyr a hoffai addasu cerddoriaeth o ystod o genres ar gyfer cyfuniad o offerynnau a/neu leisiau. Mae cofrestru ymlaen llaw, ynghyd â datganiad o’ch diddordebau, yn hanfodol.

Bydd cynnwys y maes llafur yn benodol ar gyfer pob myfyriwr unigol, a bydd yn cael ei deilwra i ddiwallu ei anghenion penodol.

Bydd pwyslais ar ehangu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth myfyrwyr o arferion addasu cerddoriaeth, a hynny er mwyn datblygu eu gallu eu hunain i addasu.

Cyfansoddwr profiadol fydd yn rhoi’r arweiniad a’r cyfarwyddyd.

Yn rhan o’r arddulliau a’r genres hwyrach bydd y canlynol: Cerddoriaeth glasurol celf orllewinol, jazz, cerddoriaeth werin, roc a phop, a cherddoriaeth y byd.

Yn rhan o’r grwpiau cerddorol i’w haddasu hwyrach bydd y canlynol: offerynnau a/neu leisiau safonol ac ansafonol, cerddoriaeth siambr 'safonol' (triawd, pedwarawd llinynnol, pumawd chwyth, pumawd piano ac ati) cerddoriaeth gerddorfaol, band pres, band chwyth, offeryn(nau) / llais (lleisiau) a phiano, côr, canu siop barbwr, ensembles ysgol, bandiau/ensembles hyfforddi, cyfuniad o ganeuon safonol hawdd ac anos fel ei gilydd.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn rhoi cymorth, cyngor ac anogaeth ar-lein ar ffurf tiwtorialau i addaswyr sy'n gweithio ar brosiect personol ym maes technegau addasu cerddoriaeth.

Bydd myfyrwyr yn cael cyngor ar sut i gyfuno cyfuniadau gwahanol o offerynnau acwstig a/neu leisiau yn llwyddiannus, a hynny er mwyn creu trefniannau effeithiol mewn nifer o gyd-destunau o ystod o genres. Bydd y myfyrwyr yn cael cyngor ar sut i greu sgôr a deunyddiau perfformio gorffenedig hyd safon broffesiynol.

Dysgu ac Addysgu

Bydd yr addysgu a’r dysgu yn digwydd drwy gyfrwng deunyddiau addysgu ar y We – drwy feddalwedd Blackboard Prifysgol Caerdydd a thrwy e-bost – gan gyflwyno gwybodaeth sylfaenol am y pwnc.

Defnyddir y dull hwn ochr yn ochr â chymorth ac asesiadau o bell ar ffurf tiwtorialau. Mae cymorth o'r fath wedi'i deilwra i anghenion penodol y myfyrwyr sy’n berthnasol i’r ddisgyblaeth.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd yn rhaid inni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u meithrin neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn sefyll arholiad ffurfiol. Asesir y cwrs hwn drwy adborth ffurfiannol ar eich prosiect a hefyd drwy asesiad crynodol. Hwyrach mai un trefniant o bwys fydd hwn neu bortffolio o drefniannau. Caiff natur y trefniant ei drafod â thiwtor y cwrs.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Lluniwyd ein dulliau i gynyddu eich hyder, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd tiwtor y cwrs yn argymell deunydd darllen, sgoriau a recordiadau cerddorol, fel y bo'n briodol ar gyfer y myfyriwr unigol.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.