Ffrangeg Ganolradd - Cam C
Hyd | 28 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Romina Andreitchouk | |
Côd y cwrs | FRE24A2609A | |
Ffi | £445 | |
Ffi ratach | £356 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os ydych wedi gwneud 3 blynedd o astudiaethau rhan-amser (neu 4 blynedd, ond yn teimlo bod eich sgiliau siarad yn wan o hyd) ac rydych yn gallu cyfathrebu wrth wneud tasgau arferol lle mae angen cyfnewid gwybodaeth ar faterion cyfarwydd a chyffredin yn uniongyrchol.
Gallech fod wedi caffael sgiliau goroesi yn Ffrangeg ac wedi cael ychydig o gyfle i ddefnyddio’r iaith yn ddiweddar (astudio rhan amser am ddwy flynedd neu wedi llwyddo’n dda yn ddiweddar mewn TGAU).
Bydd y cwrs dwys hwn yn eich galluogi i ymarfer ac atgyfnerthu eich sgiliau iaith ac i siarad Ffrangeg yn hyderus (A2). Cewch y cyfle i ymarfer mewn grwpiau bach a gwneud ymarferion chwarae rôl o sefyllfaoedd y byddwch yn dod ar eu traws mewn gwledydd lle siaredir Ffrangeg.
Bydd y cwrs yn cynnwys adolygiad o’r gwahanol amserau o’r ferf fel gorffennol, perffaith, amherffaith a gorberffaith, ond ymarfer y gwahanol sgiliau yw prif nod y cwrs.
Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.
Dysgu ac addysgu
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.
Gwaith cwrs ac asesu
Elfen bwysicaf y broses asesu, yn ein barn ni, yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.
I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.
Yn ogystal â sesiynau wythnosol, rydym yn argymell eich bod yn treulio peth amser rhwng y gwersi, naill ai’n adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth a/neu’n ceisio darllen testunau byr a gwrando ar ddeunydd clywedol er mwyn ehangu eich geirfa’n fwyfwy.
Deunydd darllen awgrymedig
Peidiwch â phrynu unrhyw lyfr nes ar ôl y sesiwn gyntaf.
- Beeching, K. and Fontaine Lewis, A. (2008) Foundations French 2. Ail argraffiad. Palgrave Foundations.
- Geoghegan, C. and Gonthier, J. (2004) Voici! An Intermediate Course in French for Adults: Student's Book. Hodder & Stoughton.
Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r llyfr gramadeg canlynol:
- Marriott, T. and Ribiere, M. (1997) Help yourself to essential French grammar. Longman.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.