Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Hanes Celf

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Beth yw hanes celf? Beth sy’n dod i’r amlwg am bobl, lleoedd neu wleidyddiaeth wrth edrych ar baentiadau a cherfluniau?

Mae'r modiwl hwn yn rhoi trosolwg o hanes celf a diwylliant gweledol y Gorllewin.

Byddwn yn canolbwyntio ar artistiaid a datblygiadau allweddol ym maes y celfyddydau gweledol drwy archwilio paentiadau, cerfluniau a ffresgoau (er enghraifft, Leonardo da Vinci, Michelangelo, Rembrandt, David a'r Cyn-Raffaëliaid).

Byddwn hefyd yn archwilio rôl a phwysigrwydd delweddau wedi'u cynhyrchu ar raddfa fawr, fel cartwnau a phosteri, yn hanes celf.

Byddwn yn edrych ar waith celf sy’n rhychwantu’r cyfnod o’r hen Aifft, Groeg glasurol a Rhufain gynt, yr Oesoedd Canol a’r Dadeni hyd at faróc, neo-glasuraeth ac oes Fictoria, gan orffen yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno mewn naw sesiwn, sy’n cynnwys darlithoedd lle bydd trafodaeth dosbarth yn dilyn ar bynciau penodol sy’n ymwneud â'r modiwl.

Bydd y sesiynau’n para dwy awr yn bennaf, ond bydd dwy sesiwn yn para tair awr er mwyn galluogi myfyrwyr i ymweld â chasgliadau Amgueddfa Cymru, nad yw’n bell i ffwrdd o'r campws. Bydd trafodaethau’n galluogi myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd.

Bydd trafodaethau a'r darlithoedd yn cael eu hategu gan yr adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr ar Dysgu Canolog.

Maes llafur dangosol

  • Trosolwg o'r modiwl a Duwiau'r Aifft
  • Celf Glasurol: Gwlad Groeg a Rhufain
  • Cwis – Celf ganoloesol
  • Celf Dadeni'r Eidal
  • Celf Dadeni'r Gogledd
  • Baróc a gwaith Rembrandt
  • Neo-glasuraeth a Hogarth
  • Celf Fictoraidd: Pre-Raffaëliaid
  • Posteri, pamffledi a gwleidyddiaeth: celf bropaganda

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd gennych ddewis o opsiynau asesu:

  • Traethawd 1,500 o eiriau
  • Tri darn 500 o eiriau sy’n gwerthuso tri darn o gelfwaith gwahanol

Bydd cyngor a chymorth yn cael eu rhoi ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn cael adborth manwl sy’n tynnu sylw at eich cryfderau a phethau i’w gwella yn eich gwaith.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Victoria Charles and Marlena Metcalf, Renaissance Art (2012)
  • Anthony Janson, History of Art (2001)
  • Marcia Pointon, History of Art: a student’s handbook (2014)
  • Mark Bills, Art in the age of Queen Victoria : a wealth of depictions (2001

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.