Ewch i’r prif gynnwys

Digital Society

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r modiwl hwn yn trin a thrafod sut mae technolegau digidol yn trawsnewid bywyd cymdeithasol, diwylliant, gwleidyddiaeth a’r economi.

Mae datblygiad technolegau newydd, megis y cyfryngau cymdeithasol, algorithmau, deallusrwydd artiffisial ac economïau platfformau, yn codi cwestiynau cymdeithasegol dwfn ynghylch hunaniaeth, cymuned, anghydraddoldeb, gwaith, llywodraethiant a chyd-berthnasau dynol.

Nod y modiwl hwn yw darparu fframwaith cymdeithasegol ar gyfer mynd i'r afael â materion polisi sy'n ymwneud â chyfiawnder, hawliau a budd y cyhoedd, a hynny mewn oes sy’n cael ei thechnolegu mwy a mwy. Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd y myfyrwyr yn gallu gwerthuso effeithiau technolegol o safbwynt cymdeithasegol yn haws.

Dysgu ac addysgu

Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyriwr yn gallu gwneud y canlynol:

Erbyn diwedd y modiwl, dylai fod gan y myfyrwyr allu cymdeithasegol gwell i ddeall, gwerthuso a mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â chymdeithas a thechnoleg ddigidol.

A hwythau’n feddylwyr ac yn eiriolwyr, nod y modiwl yw meithrin eu sgiliau mewn perthynas â'r oes sy’n cael ei digido mwy a mwy.

  • Deall a defnyddio cysyniadau a damcaniaethau cymdeithasegol allweddol i ddadansoddi materion sy’n ymwneud â thechnoleg a bywyd digidol – Mae'r modiwl yn cyflwyno syniadau sylfaenol megis ôl-foderniaeth, ôl-strwythuraeth a damcaniaeth feirniadol sy’n cynnig lens ar gyfer astudio’r gymdeithas ddigidol.
  • Gwerthuso’n feirniadol yr effeithiau cymdeithasol y mae technolegau digidol yn eu cael ar feysydd megis hunaniaeth, cymuned, anghydraddoldeb, gwaith, cyd-berthnasau, gweithredaeth, llywodraethiant a mwy – Bydd cymhwysedd y myfyrwyr o ran asesu effeithiau technolegol o safbwynt cymdeithasegol yn cynyddu.
  • Dadansoddi pynciau megis rhaniadau digidol, pŵer platfformau, tuedd algorithmig, awtomeiddio, cyfalafiaeth wyliadwriaeth, cyd-berthnasau digidol, gweithredaeth ar-lein a rheoleiddio digidol – Mae'r modiwl yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion sy’n amlwg lle mae technoleg a chymdeithas yn croestorri.
  • Astudio canlyniadau iwtopaidd a dystopaidd newid technolegol gan ddefnyddio tystiolaeth gymdeithasegol ac achosion yn y byd go iawn – Bydd y myfyrwyr yn cael eu herio i feddwl yn ofalus am faterion cymhleth sy’n ymwneud â thechnoleg.
  • Defnyddio dealltwriaeth gymdeithasegol i ddatblygu polisïau, ymgyrchoedd ac ymyriadau sy’n ceisio mynd i'r afael â materion sy’n ymwneud â chyfiawnder, moeseg, hawliau a budd y cyhoedd mewn bywyd digidol – Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol i ddod yn ddinasyddion digidol.
  • Cyfleu dadansoddiadau beirniadol o faterion sy’n ymwneud â thechnoleg drwy baratoi traethodau, adroddiadau, briffiau polisi a phapurau ymchwil, er enghraifft – Mae'r modiwl yn datblygu’r gallu i ddadansoddi a chyfathrebu.

Datblygu safbwyntiau gwybodus ar reoleiddio cwmnïau technoleg, algorithmau, deallusrwydd artiffisial, y cyfryngau cymdeithasol a data, a hynny’n unol â gwerthoedd dynol – Mae’r myfyrwyr yn cael fframweithiau ar gyfer llywodraethu.

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd portffolio sy’n cynnwys pedwar gweithgaredd yn cael ei asesu’n ffurfiannol ar hyd y modiwl.

Bydd y myfyrwyr yn cael eu hannog i ddatblygu eu portffolios ar hyd y modiwl.

Deunydd darllen awgrymedig

Wythnos 1:

  • Lupton, D. (2015). Pennod 1 Introduction. Yn Digital Sociology. Routledge.
  • Fuchs, C. (2020). Pennod 1 What is a Critical Introduction to Social Media?. Yn Social Media: A Critical Introduction. SAGE.

Wythnos 2:

  • Turkle, S. (2011). Alone Together: Why We Expect More from Technology and Less from Each Other Basic Books.
  • Marwick, A. E. a Boyd, D. (2011). I tweet honestly, I tweet passionately:Twitter users, context collapse, and the imagined audience. New Media & Society, 13(1), 114-133.

Wythnos 3:

  • Selwyn, N. (2004). Reconsidering political and popular understandings of the digital divide. New Media & Society, 6(3), 341-362.
  • Eubanks, V. (2018). The digital poorhouse. Yn Automating Inequality: How High-Tech Tools Profile, Police, and Punish the Poor. St Martin’s Press.

Wythnos 4:

  • Gillespie, T. (2010). The politics of ‘platforms’. New Media & Society, 12(3), 347-364.
  • Foster, R. a McChesney, R. W. (2014). Surveillance Capitalism. Monthly Review, 66(3), 1-31.

Wythnos 5:

  • Zuboff, S. (2019). Surveillance Capitalism and the Challenge of Collective Action. New Labour Forum, 28(1), 10-29.

Wythnos 6:

  • O'Neil, C. (2017). Pennod 1. Yn Weapons of Math Destruction: How Big Data Increases Inequality and Threatens Democracy. Broadway Books.
  • Taylor, L. (2017). What is data justice? The case for connecting digital rights and freedoms globally. Big Data & Society, 4(2). DOI:10.1177/2053951717736335

Wythnos 7:

  • Pascoe, C. J. (2011). Resource and Risk: Youth Sexuality and New Media Use. Sexuality Research and Social Policy, 8(1), 5-17.
  • Baym, N. (2015). Pennod 1 New forms of personal connection. Yn Personal Connections in the Digital Age. John Wiley & Sons.

Wythnos 8:

  • Tufekci, Z. (2017). Twitter and Tear Gas: The Power and Fragility of Networked Protest. Yale University Press.
  • Treré, E. a Kaun, A. (2021). Digital Media Activism: A Situated, Historical, and Ecological Approach Beyond the Technological Sublime. Yn Digital Roots. De Gruyter Oldenbourg

Wythnos 9:

  • Srnicek, N. (2017). Platform Capitalism. John Wiley & Sons.
  • Standing, G. (2017). Basic Income: And How We Can Make It Happen. Penguin UK.

Wythnos 10:

  • Van Dijck, J. (2014). Datafication, dataism and dataveillance: Big Data between scientific paradigm and ideology. Surveillance & Society, 12(2), 197-208.
  • Cobbe, J. a Singh, J. (2021). Regulating Recommending: Motivations, Considerations, and Principles. European Journal of Law and Technology, 12(3).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.