Ewch i’r prif gynnwys

Petai Llais gan y Canfyddiadau Hyn: Archaeoleg Gwrthrychau

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Beth mae archeolegwyr yn ei wneud â'r hyn y maent yn dod o hyd iddo?

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ystod o ganfyddiadau o safleoedd archeolegol, ac yn ystyried sut allwn ymchwilio, dadansoddi a chwestiynu'r canfyddiadau hynny i ddod i wybod mwy am bobl y gorffennol, a'r byd roeddent yn byw ynddo.

Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i ystod o ddeunyddiau a ganfuwyd yn sgîl gwaith cloddio archeolegol, yn cynnwys tystiolaeth amgylcheddol, esgyrn anifeiliaid a bodau dynol, yn ogystal â gwrthrychau a wnaed gan bobl, fel crochenwaith, gwaith metel a gwydr, ac arian parod.

Yn ogystal ag ystyried arwyddocâd y canfyddiadau hyn fel modd o archwilio'r gorffennol, byddwn yn ystyried sut y gellir eu cadw a'u cyflwyno ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i archeoleg y labordy gwyddonol: maes cadwraeth archeolegol. Yn dilyn hynny, byddwn yn ystyried sut  y gellir cadw a chyflwyno canfyddiadau i'r cyhoedd, o fewn cyd-destun amgueddfeydd, ac wrth ddatblygu prosiectau archeoleg bywiog sy'n cysylltu canfyddiadau o gymdeithasau'r gorffennol â'r cymunedau sydd ar y safleoedd hynny heddiw.

Wrth archwilio'r pynciau hynny, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddadansoddi gwrthrychau unigol, yn ogystal â chreu eu 'hamgueddfa ddigidol' eu hunain, asesu arwyddocâd safle penodol neu grŵp o ganfyddiadau archeolegol.

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn archeoleg a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n rhan o lwybr Archwilio’r Gorffennol, a bydd yn eich arfogi â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys naw uned wedi'u rhannu'n themâu. Mae pob uned yn cynnwys sesiwn wyneb yn wyneb 2-awr o hyd.

Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd. Bydd cyfle hefyd i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, wedi'i hwyluso gan Rith-Amgylchedd Dysgu’r Brifysgol, sef Dysgu Canolog.

Gwaith cwrs ac asesu

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys dau ddarn byr o waith asesedig a ddylai, gyda’i gilydd, ddod i oddeutu 1500 o eiriau. Mae'r darnau hyn o waith wedi cael eu cynllunio i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r dulliau y mae arnoch eu hangen i astudio’r gorffennol yn llwyddiannus.

Y cyntaf o'r rhain fydd bywgraffiad gwrthrych, ar sail gwrthrych a ddarganfuwyd wrth gynnal gwaith cloddio archeolegol, wedi'i gymryd o'r deunydd astudio yn y wers.

Yr ail fydd prosiect 'amgueddfa ddigidol,' traethawd darluniedig yn cyflwyno arddangosfa fer o 5-6 gwrthrych a a ddarganfuwyd mewn gwaith cloddio archeolegol mewn un safle neu wahanol safleoedd, sy'n adrodd stori am agwedd o gymdeithas y gorffennol.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Caple, C. 2000. Conservation Skills: judgement, method and decision making. Abingdon ac Efrog Newydd: Routledge
  • Greene, K. 2002. Archaeology: An introduction: The Online Companion, 4th edition. yn enwedig penodau 5 a 6
  • Hodges, H. 1989. Artifacts: An introduction to early materials and technology. Llundain: Duckworth
  • Nilsson Stutz, L., a Tarlow, S. (golygyddon) 2013. The Oxford Handbook of the Archaeology of Death and Burial. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen
  • The Portable Antiquities Scheme: https://finds.org.uk/

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.