Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglennu Python Uwch

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Nod y modiwl hwn yw cynnwys pynciau mwy datblygedig yn iaith sgriptio Python.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar eich cyfer chi oes oes gennych wybodaeth dda am raglennu Python eisoes.

Dysgu ac addysgu

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o sesiynau labordy a darlithoedd traddodiadol. Mae pob cyfarfod yn dechrau gyda darlith ac yn gorffen gyda sesiwn yn y labordy.

Maes Llafur

  • Trin data mewn ffeil testun
  • Defnydd o feini prawf dethol
  • Araeau dau ddimensiwn
  • Darllen data mewn trefn
  • Defnyddio Python i ddadansoddi taenlen Microsoft.
  • Didoli data drwy ddefnyddio sawl allwedd
  • Cyflwyniad i ddosbarthiadau Python.
  • Cyflwyniad i etifeddiaeth Python.
  • Arbed gwrthrychau Python mewn cronfa ddata.
  • Cyflwyniad i Ryngwyneb Defnyddiwr Graffigol (GUI).
  • Rhaglenni rhaglennu systemau drwy ddefnyddio sgriptiau Python.
  • Rhaglennu rhwydweithiau drwy ddefnyddio protocolau UDP a TCP.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cyflwyno aseiniadau i diwtor y cwrs. Ar ddiwedd y cwrs, bydd yna brawf dosbarth.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Lutz, M. & Ascher, D.,  Learning Python. O’Reilly & Associates

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.