Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Hanes Trefol De Cymru Cwrs

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r cwrs hwn yn archwilio twf a datblygiad y Gymru drefol, o drefi Rhufeinig Caerwent a Chaerfyrddin i ddyfodiad Caerdydd fel prifddinas y wlad.

Dros y 10 wythnos, bydd myfyrwyr yn archwilio natur trefi Cymru a’u hesblygiad o fewn cyd-destun ehangach Prydain drefol.

Yn ogystal â mynd i'r afael a’r effaith y cafodd digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol ar aneddiadau Cymru, byddant hefyd yn archwilio’r newidiadau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol a effeithiodd ar fywydau'r rheini a oedd yn byw yn y trefi hyn.

Bydd maes llafur y cwrs yn cwmpasu:

  • Wythnos 1: Trefi Rhufeinig ac aneddleoedd Cymreig cynnar
  • Wythnos 2: Y goresgyniad Normanaidd a threfi planhigfeydd y cestyll
  • Wythnos 3: Bywyd yn nhrefi canoloesol Cymru
  • Wythnos 4: Yr 16eg a’r 17eg ganrif: aildrefnu, diwygiad a gwrthryfel
  • Wythnos 5: Yr 17eg a’r 18fed ganrif: Dirywiad a marweidd-dra
  • Wythnos 6: Twf yn ystod y ddeunawfed ganrif: Merthyr, Abertawe a Chasnewydd
  • Wythnos 7: Dyfodiad Caerdydd
  • Wythnos 8: Wrbaniaeth trefi bychain
  • Wythnos 9: Dinistr a dirywiad trefi Cymru yn ystod yr 20fed ganrif
  • Wythnos 10: Adnewyddiad ac arallgyfeirio.

Bydd myfyrwyr yn archwilio’r themâu canlynol:

  • Twf dinesig a’r Boblogaeth
  • Datblygiadau gwleidyddol ac economaidd
  • Effeithiau digwyddiadau lleol a chenedlaethol
  • Bywyd y bobl: galwedigaethau, tai, addysg, crefydd, diwylliant, hamdden, chwaraeon
  • Dadleuon ynghylch diffiniad ‘trefol’.

Dysgu ac addysgu

Cynhelir y dysgu ac addysgu drwy weithio mewn grwpiau bach.

Mae hwn yn gwrs 10 credyd, felly bydd cyfarfod dwy awr unwaith yr wythnos (cyfanswm o 20 o oriau cyswllt) a fydd yn cynnwys grwpiau trafod, ymarferion, dadansoddi ffynonellau a chyflwyno deunydd ar fideo a/neu DVD.

Y nod yw sicrhau bod y dosbarthiadau’n bleserus ac ysgogol i bawb. Bydd hyn yn annog datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r pynciau a’r syniadau a drafodir yn ystod y cwrs.

Gwaith cwrs ac asesu

Traethodau neu orchwylion ysgrifenedig cyfatebol eraill hyd at 1500 o eiriau sy'n dangos eich bod yn deall elfennau craidd deunydd y cwrs.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion dosbarth. Efallai y byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu aseiniadau, cadw dyddiadur am y cwrs, neu lunio portffolio.

Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gryfhau’ch hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Borsay, P. (ed.), The Eighteenth Century Town. 1688-1820 (London, 1990).
  • Moore, D. (ed.), Wales in the Eighteenth Century (Swansea, 1976).
  • Carter, H. The Towns of Wales (Cardiff, 1965).
  • Corfield, P. J. The Impact of English Towns 1700-1800 (Oxford, 1982).
  • Davies, J. A History of Wales (London, 1990).
  • Fulton, H. Urban Culture in Medieval Wales (Cardiff, 2012).
  • Jenkins, G. H.  The Foundations of Modern Wales 1642-1780 (Oxford, 1993).
  • Thirsk, J. (ed), Agrarian History of England and Wales (Cambridge, 1967).
  • Williams, C. (ed.), A Companion to Nineteenth-Century Britain (Oxford, 2004).

Also relevant chapters in The Cambridge Urban History of Britain and the journal of Urban History, Volume 32 (2005).

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.