Ewch i’r prif gynnwys

Uwch-ddatblygu ar y We drwy ddefnyddio CSS, HTML, JS a Fframwaith PHP

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r cwrs yn tywys myfyrwyr drwy'r broses o ddatblygu gwefannau soffistigedig, llawn nodweddion, ymatebol a hygyrch sy'n cynnwys swyddogaethau ar ochr y cleient ac ar ochr y gweinydd.

Rhoddir trosolwg o HTML, CSS, a Javascript cyn cyflwyno rhai o'r fframweithiau datblygu gwe mwyaf modern sydd ar gael heddiw fel Bootstrap a CakePHP. Dylai myfyrwyr sy'n mynychu’r cwrs feddu ar ddealltwriaeth dda o HTML a PHP.

Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer myfyrwyr sydd â dealltwriaeth sylfaenol o HTML a CSS (ac yn ddelfrydol byddant wedi mynychu Datblygu Gwefannau drwy ddefnyddio HTML a CSS) sydd am ehangu eu sgiliau gwe-ddylunio a gwe-ddatblygu.

Dysgu ac addysgu

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o esbonio ac arddangos dan arweiniad tiwtor a sesiynau ymarferol. Mae pob cyfarfod yn agor gydag arddangosiad byr; mae prif gyfran y sesiwn yn cynnwys gwaith ymarferol dan arweiniad tiwtor.

Mae'r Maes Llafur yn cynnwys:

  • cynllun tudalennau gwe ymatebol trwy ddefnyddio HTML a Cascading Style Sheets (HTML5/CSS3)
  • fformatio tudalennau gwe trwy ddefnyddio HTML a Cascading Style Sheets (HTML5/CSS3)
  • cyflwyniad i ddarparu rhyngweithedd ar ochr y cleient trwy ddefnyddio JavaScript (AJAX a JQuery)
  • defnyddio amgylcheddau datblygu integredig ar gyfer gwe-ddatblygu (Aptana Studio, Netbeans)
  • offer rheoli gwefannau (cleientiaid FTP)
  • bod yn gyfarwydd â fframweithiau MVC / PHP gan ddefnyddio CakePHP
  • bod yn gyfarwydd â CSS, HTML, a fframwaith JS gan ddefnyddio Bootstrap
  • cyflwyniad i swyddogaethau ar ochr y gweinydd gan ddefnyddio CakePHP a MySQL (gwe-dudalennau a yrrir gan gronfeydd data)

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Bydd gwaith asesedig yn cynnwys dau aseiniad a phrawf dosbarth Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Nid oes rhestr ddarllen orfodol ar gyfer y modiwl hwn, ac oherwydd natur gyfnewidiol y cynnwys, ni ddarperir cyfeiriadau penodol. Fodd bynnag, anogir myfyrwyr i ddarllen unrhyw ddeunydd modern, cyflwyniadol (o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf) am y pynciau canlynol: HTML5 a JavaScript CSS3, a jQuery PHP5.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.