Cyrff sy’n Syfrdanu a Chredoau Anhygoel, 1500-1700
Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd
Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..
Heddiw, gall credoau cyfnodau cynharach ymddangos yn rhyfedd ac yn hurt; cynhyrchion 'anwybodaeth' neu 'ofergoeliaeth'.
Mae hyn yn sicr yn wir am y ddealltwriaeth fodern gynnar ynghylch y corff dynol.
Mae’n bwysig cofio, fodd bynnag, bod y syniadau ymddangosiadol afresymol hyn yn aml yn seiliedig ar astudiaeth ofalus a systemau meddwl cymhleth.
Yn wir, gall y ffyrdd yr oedd pobl mewn oesoedd blaenorol yn meddwl am y corff a ffisioleg ddweud llawer wrthym am sut yr oeddent yn gweld y byd o'u cwmpas a'u lle eu hunain ynddo.
Gyda hynny mewn golwg, byddwn yn archwilio ystod o gredoau am y corff ym Mhrydain o 1500 i 1700.
Bydd hyn yn cynnwys agweddau at iachâd a meddygaeth, nefoedd, uffern a phurdan, angenfilod a’r hyn a elwid yr adeg honno yn ‘enedigaethau afluniaidd’, ysbrydion a gwrachod, a'r defnydd o broffwydoliaethau.
Gan ganolbwyntio'n bennaf ar Loegr, ond gan dynnu ar gyd-destunau ehangach Prydain ac Ewrop lle bo hynny'n berthnasol, byddwn yn archwilio'r hyn y gall y ffigyrau hyn yn ei ddatgelu am sut mae syniadau ynghylch 'synnwyr cyffredin' a 'normalrwydd' wedi newid dros amser.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl ar ffurf saith sesiwn wyneb yn wyneb gyda deunydd darlithoedd wedi'u recordio ymlaen llaw i'w gwylio cyn pob sesiwn.
Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd ac yna trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol sy'n ymwneud â'r modiwl.
Bydd y drafodaeth a'r gwaith grŵp yn eich galluogi i feddwl yn feirniadol a chyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd. Bydd disgwyl i chi hefyd ddarllen deunydd perthnasol wedi’i argraffu a defnyddio hynny’n sail ar gyfer cyfraniadau yn y dosbarth.
Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.
Maes Llafur:
- Cyrff modern cynnar a'r anghyffredin
- Darllen y corff a therfynau beth sy’n bosib
- Angenfilod modern cynnar a chyrff afluniaidd
- Crefydd, cred a hiraeth
- Proffwydoliaethau modern cynnar – sut y’u defnyddiwyd, a sut fu iddynt gael eu cam-ddefnyddio
- Ysbrydion, hud a dewiniaeth
- Gwallgofrwydd a phrudd-der
Gwaith cwrs ac asesu
Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:
- dadansoddiad ffynhonnell fer
- blog 1000 o eiriau
Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl ynghylch cryfderau a meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.
Deunydd darllen awgrymedig
- David Cressy, Agnes Bowker’s Cat: Travesties and Transgressions in Tudor and Stuart England (Rhydychen, 2001).
- Darren Oldridge, Strange Histories (Llundain, 2005).
- Garthine Walker ac Angela McShane (goln.), The Extraordinary and the Everyday in Early Modern England: Essays in Celebration of the Work of Bernard Capp (Basingstoke, 2010).
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.