Ewch i’r prif gynnwys

Eidaleg i Ddechreuwyr – Cam A

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn yn darparu sail gadarn o ran strwythurau sylfaenol Eidaleg a’i gramadeg, a fydd yn galluogi myfyrwyr i gyfathrebu mewn sefyllfaoedd hanfodol o ddydd i ddydd yn yr Eidal.

Er bod y pwyslais ar siarad, byddwch hefyd yn dysgu strwythurau gramadegol a phatrymau brawddegau, sy'n hanfodol ar gyfer gwneud cynnydd pellach mewn Eidaleg.

Byddwch yn dysgu darllen testunau, llythyrau a negeseuon sylfaenol, deall deialogau dilys, a llunio eich deialogau eich hun trwy ymarferion grŵp a/neu waith pâr yn ystod y gwersi.

Dyma'r pynciau fydd o dan sylw:

  • cyfarchion a chanu’n iach
  • rhifau 1-1.000.000
  • gofyn am fanylion personol a rhoi manylion personol (cenedligrwydd, gwaith)
  • hobïau a gweithgareddau hamdden
  • disgrifio lle
  • gofyn am gyfarwyddiadau a rhoi cyfarwyddiadau
  • archebu ystafell mewn gwesty
  • archebu mewn bwyty
  • disgrifio tŷ
  • siarad am daith
  • y tywydd.

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y ramadeg sylfaenol y bydd arnoch ei hangen ar y lefel hon, gan gynnwys:

  • strwythurau brawddegau (ffurfio cwestiynau)
  • yr wyddor
  • enwau a chenedl
  • y fannod benodol/amhenodol
  • berfau/berfau moddol rheolaidd/afreolaidd
  • amser presennol y ferf
  • rhagenwau personol
  • arddodiaid

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gyfranogi, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.

Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu mewn pedair rhan er mwyn asesu pob un o'r sgiliau canlynol: siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Fe’i cynlluniwyd i wella’r hyn a ddysgwyd gennych yn ystod y cwrs.

Yn ogystal â’r sesiynau wythnosol, argymhellwn eich bod yn treulio amser rhwng y gwersi yn adolygu ac ymarfer yr hyn a wnaed yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Ceir rhestr o’r gwerslyfrau a argymhellir yn y sesiwn gyntaf.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.