Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu Sgiliau Arwain a Rheoli Proffesiynol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Byddwch yn ymchwilio i bwysigrwydd arwain a rheoli yn y byd proffesiynol.

Byddwch yn astudio damcaniaethau arwain a rheoli ochr yn ochr ag astudiaethau achos sy’n edrych ar heriau bywyd go iawn sy'n wynebu arweinwyr proffesiynol heddiw.  Byddwch yn archwilio eich arddulliau arwain a rheoli eich hun ac yn ystyried eich ymatebion i sefyllfaoedd rheoli gwahanol. Mae'r cwrs rhyngweithiol iawn hwn yn boblogaidd - cofiwch gofrestru o flaen llaw.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw fyfyriwr sydd wedi cael rhywfaint o brofiad o arwain a rheoli yn y gweithle ac sydd â dyheadau i arwain a rheoli mewn ffordd ymarferol yn y dyfodol.

Dysgu ac addysgu

Bydd y cwrs yn darparu amrywiaeth o offer dysgu ac addysgu, gan gynnwys astudiaethau achos, stocrestrau hunan ganfyddiad arwain a rheoli, darlithoedd a seminarau i ddarparu cymysgedd o gyfleoedd dysgu i bob cyfranogwr.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yr asesiad ar gyfer y cwrs hwn yw: Bydd y myfyrwyr yn darparu ymateb ysgrifenedig i ddwy sefyllfa arwain.  Bydd hyn ar ffurf disgrifiad cymharol a fydd yn defnyddio damcaniaethau arwain a rheoli ac yn ddim mwy na 2000 o eiriau.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu, sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Unrhyw destunau craidd ar arweinyddiaeth a rheolaeth cyfoes cyffredinol.  Darperir rhestr darllen drwyadl ar ddechrau'r cwrs.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.