Gwylio Pobl: Archwilio Nodweddion
Hyd | 10 cyfarfod wythnosol | |
---|---|---|
Tiwtor | Briony Goffin | |
Côd y cwrs | CRW22A5168A | |
Ffi | £175 | |
Ffi ratach | £140 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Canol dinas Caerdydd (lleoliad i'w gadarnhau) |
Mae'r cwrs hwn yn defnyddio pobl fel ei ysbrydoliaeth, oddi wrth y bobl rydyn ni'n eu hadnabod, y bobl rydyn ni wedi'u gweld, y bobl rydyn ni wedi'u clywed a'r bobl rydyn ni wedi'u dychmygu.
Bydd pob dosbarth yn archwilio agweddau gwahanol ar gymeriadu a bydd yn edrych ar sut mae i dyfu atgofion a ffuglen oddi wrth bobl ein bywydau.Trwy amrywiaeth o brofiadau ysgrifennu ac awgrymiadau, bydd myfyrwyr yn casglu portffolio o waith gwreiddiol a adeiladwyd o gwmpas cymeriadau lliwgar, tri dimensiwn bythgofiadwy.
Bydd yr arddull addysgu yn sicrhau amgylchedd cynnes, cefnogol ac ysgogol i awduron o bob profiad.
Dysgu ac addysgu
Gwaith cwrs ac asesu
Deunydd darllen awgrymedig
Bydd tiwtor y cwrs yn cynnig teitlau, fel y bo’n briodol.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.