Ewch i’r prif gynnwys

Cyfieithu Lefel Uchel Sbaeneg-Saesneg – Cyfnod cyn Arholiad

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Y modiwl hwn yw’r ail o’r ddau a ddyluniwyd yn bennaf ar gyfer myfyrwyr sydd angen cyfnod dwys a hynod ymarferol cyn yr arholiadau.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cwblhau’r ffurflen gais hon cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Mae’n eich galluogi i gyflwyno paragraff sy’n amlinellu unrhyw gymwysterau, profiad o gyfieithu a nodau personol, fel y gallwch gael cyngor gan y tiwtor ynghylch a fyddai’r cwrs hwn yn bodloni eich gofynion.

Y Sefydliad Siartredig Ieithyddiaeth (CIoL) sy’n cynnal yr arholiad DipTrans blynyddol.

Y nod yw datblygu eich sgiliau a’ch cyflymder wrth gymhwyso technegau cyfieithu penodol a cyflwyno ymarferion rheolaidd ar destunau ffynhonnell cynrychioliadol, fel y byddwch yn cael eich hyfforddi i gyfieithu hyd at safon broffesiynol o dan amodau arholiad.

Cynhelir yr ail fodiwl hwn am 16 wythnos o fis Medi tan fis Ionawr, gydag egwyl dros wyliau’r Nadolig, i roi ymarfer dwys hyd at ddyddiad yr arholiad, gan ganolbwyntio’n benodol ar bapurau arholi.

Dyluniwyd y cwrs ar gyfer myfyrwyr sy’n siarad Saesneg fel iaith gyntaf, neu sy’n ei siarad yn arferol ers dros 10 mlynedd, ac sydd â gradd (neu gyfartal â hon) mewn Sbaeneg.

Mae arholiad y Diploma mewn Cyfieithu’n agored i bawb ond mae’r CIoL yn cynghori ymgeiswyr i wneud yn siŵr bod eu hyfedredd yn yr iaith ffynhonnell yn gyfatebol i radd dda gan brifysgol. Maent yn argymell y dylai ymgeiswyr fod â gradd yn yr iaith ffynhonnell (neu radd gyfunol lle mae’r iaith honno’n cael ei harholi ar lefel gradd derfynol) neu wybodaeth helaeth am yr iaith ffynhonnell a gafwyd drwy ddefnydd sylweddol a pharhaus o’r iaith mewn ffordd broffesiynol, neu drwy fod wedi astudio’r iaith honno i hyfedredd gweithredol effeithiol.

Dysgu ac addysgu

Gofynnir i chi gyfieithu 8 testun. Ar gyfer pob un ohonynt, bydd y Tiwtor yn rhoi adborth a chyngor i chi ynghylch sut i wella eich dull cyfieithu.

Bydd yr holl destunau ffynhonnell yn hen bapurau arholiadau CIoL. Er bydd anodiadau wedi diflannu o’r arholiad ei hun, bydd myfyrwyr yn cael gwahoddiad i gyflwyno anodiadau gyda’u cyfieithiadau, fel ffordd o drafod unrhyw anawsterau y gallent fod wedi eu cael wrth gyfieithu’r Testun Ffynhonnell (ST), yn ogystal â’r atebion y maent wedi’u hystyried a’u defnyddio.

Gwaith cwrs ac asesu

Anfonir y cyfieithiadau wedi’u cwblhau bob pythefnos i blatfform dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, Dysgu Canolog (Bwrdd Du), lle byddant yn cael eu darllen a’u marcio’n fanwl yn ôl meini prawf “Canllawiau Marcio’r Diploma mewn Cyfieithu”. Nod y sylwadau a’r argymhellion fydd eich helpu i fireinio eich gwaith yn unol â gofynion safon drylwyr CIoL.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yn ein barn ni yw y dylai gryfhau eich dysgu. Mae ein dulliau wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion. I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae 30 credyd i’r cwrs hwn; nid yw hyn yn ddigonol i gael cymhwyster gan Brifysgol Caerdydd.

Deunydd darllen awgrymedig

  • A textbook of translation (P. Newmark) Longman, pp.xii-292, paper, 2001, ISBN 0-13-912593-0.
  • About translation (P. Newmark), Multilingual Matters Ltd, 2001, ISBN 1-85359-117-3.
  • Paragraphs on Translation (P. Newmark), Multilingual Matters Ltd, 1993, ISBN 1-85359-191-2.
  • Annotations explained: a workbook (E. Reisinger, et al.), City University, London, Revised Edition, 2000, ISBN 0-9526783-0-6. Deunyddiau darllen da, ond nid yn ofynnol.
  • A Practical Guide for Translators (G. Samuelsson-Brown), ISBN 1-85349-428-8, 1998, Multilingual Matters.
  • The Translator's Handbook (M. Sofer), ISBN 1-887563-48-2, 1999, Schreiber Publishing Rockville, Maryland.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.