Ewch i’r prif gynnwys

Hablemos de España y Latinoamérica

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Este curso está orientado para estudiantes de español de nivel avanzado que quieren seguir practicando sus destrezas auditivas y orales además de adquirir nuevos conocimientos históricos y culturales.

En este curso se verán temas de historia y cultura contemporánea de España y América Latina. Estos temas incluyen cómo ha influenciado la historia en la situación actual, guerras y conflictos políticos a través del arte y el cine, y la influencia del español en el mundo.

Para cubrir estos temas se utilizará una gran variedad de recursos tales como presentaciones, recortes de prensa, documentales, documentos de televisión y lecturas.

Los alumnos podrán analizar el contexto histórico y practicar su gramática y vocabulario mediante actividades orales y escritas sobre la película vista en clase

Los estudiantes tendrán la oportunidad de practicar sus destrezas orales y escritas tanto de forma independiente como en grupo, mediante discusiones, debates y presentaciones cortas. También podrán practicar y mejorar sus conocimientos léxicos y gramaticales a través de comentarios de texto, redacciones y actividades de gramática y vocabulario.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr Sbaeneg uwch sydd am ehangu eu gwybodaeth o Hanes Sbaen a sgiliau llafar a chlywedol Sbaeneg.

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau megis archwilio hanes diweddar Sbaen ac America Ladin, diwylliant Sbaen a materion cyfoes.

Er enghraifft, dylanwad hanes ar faterion cyfoes a thraddodiad; rhyfel a gwrthdaro gwleidyddol trwy gelf a ffilm, a'r dylanwad “Sbaeneg” yn y byd.

Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddogfennau ac adnoddau megis erthyglau yn y wasg, testunau a rhaglenni dogfen.

Ar gyfer rhai pynciau byddwn yn defnyddio ffilmiau a rhaglenni dogfen sy’n seiliedig ar bynciau a drafodir yn y dosbarth. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymarfer a gwella eu geirfa, eu gramadeg a’u hiaith lafar drwy ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau ysgrifenedig a llafar yn y dosbarth.

I bwy mae’r cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr uwch sy'n dymuno datblygu eu sgiliau llafar a gwrando yn Sbaeneg.  Addysgir y cwrs drwy gyfrwng y Sbaeneg.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i gymryd rhan yn y dosbarth trwy amrywiaeth o weithgareddau diogel a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

Portffolio gwaith cwrs a chymryd rhan yn y dosbarth. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Darperir deunyddiau - bydd taflenni ac adnoddau ar gael ar Dysgu Canolog.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.