Ewch i’r prif gynnwys

Darllen ac Ysgrifennu Barddoniaeth

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn yn cadw at y cyngor cadarn, os ydych chi eisiau ysgrifennu barddoniaeth, dylech ei ddarllen.

Mae'n agored i unrhyw un sydd eisiau edrych yn agos, ond â meddwl agored, ar sut mae barddoniaeth, yn ei holl ffurfiau ac arddulliau, yn llwyddo i ddal dychymyg y darllenydd. Petaech yn mwynhau hyn, a’r ysbrydoliaeth i ysgrifennu eich cerddi eich hun, dewch i fod yn rhan o'r dosbarth cyfeillgar, cefnogol, sy'n croesawu pawb o bob gallu.

Mae’r cwrs yn ystyried amrywiaeth o enghreifftiau o’r gorffennol a’r presennol fel sbardun ar gyfer ysgrifennu. Mae hefyd yn mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag ysgrifennu barddoniaeth yn ogystal â chanolbwyntio ar y broses ysgrifennu ac adolygu. Prif nod y cwrs yw mireinio eich sgiliau ysgrifennu a datblygu eich dealltwriaeth o’r hyn sy’n gwneud cerdd werthfawr.

Dysgu ac addysgu

Cynhelir y dysgu ac addysgu drwy weithio mewn grwpiau bach. Mae hwn yn gwrs 10 credyd, felly bydd cyfarfodydd dwyawr unwaith yr wythnos dros ddau dymor (20 awr gyswllt yn gyfan gwbl) a fydd yn cynnwys trafodaethau, ymarferion (opsiynol), darlithoedd ynghylch crefft a gweithdai. Y nod yw sicrhau bod y dosbarthiadau’n bleserus ac ysgogol i bawb.

Disgwylir i chi ysgrifennu yn eich amser preifat eich hun, gydag arweiniad eich tiwtor, a dysgu am adolygu, wrth ymgyfarwyddo ar yr un pryd â chysyniadau sylfaenol ysgrifennu creadigol.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc. Ni fydd unrhyw arholiadau ffurfiol.

Cewch eich annog i ysgrifennu a darllen enghreifftiau o'ch gwaith eich hun i gyd-aelodau eich dosbarth, a rhoi sylw i’w gwaith yn eu tro, yn y broses o hogi eich sgiliau beirniadu. Eich dewis chi yw ar ba ffurf y byddwch yn ysgrifennu, ond bydd eich tiwtor yn cynnig cyngor i chi, a chan ddibynnu ar ba lefel rydych yn astudio arni, yn penderfynu ar gynllun astudio gyda chi, â'r nod o ennyn y gorau ohonoch.

Sail yr asesiad fydd portffolio o ysgrifennu creadigol yn cynnwys y gwaith gorau a gynhyrchwyd gennych ar y modiwl hwn. Gall y portffolio hwn gynnwys sawl darn creadigol ar wahân, neu un darn o ysgrifennu estynedig, gyda chytundeb eich tiwtor ymlaen llaw. Eich tiwtor fydd yn asesu eich gwaith, a bydd wedyn yn cynnig adroddiadau ysgrifenedig i chi, a'n gobaith yw y byddwch yn teimlo eu bod yn adeiladol.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau yn hyblyg ac wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd tiwtor y cwrs yn cynnig teitlau, fel y bo’n briodol.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.