Ewch i’r prif gynnwys

Sgiliau Rheoli Hanfodol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Hyd 5 o gyfarfodydd bob pythefnos yn ogystal â 10 awr ar-lein
Tiwtor Jemma Cox
Côd y cwrs BAM23A4924A
Ffi £186
Ffi ratach £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

21-23 Ffordd Senghennydd
Cathays
Caerdydd
CF24 4AG

Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o'r sgiliau, technegau a'r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn bod yn rheolwr llwyddiannus.

Mae’r cwrs cynhwysfawr hwn yn rhyngweithiol iawn, ac yn rhoi cwmpas rhagorol o sgiliau, technegau a gwybodaeth hanfodol ar gyfer llwyddo fel rheolwr.

Mae'r cwrs wedi'i ddylunio ar gyfer myfyrwyr sydd am fod yn rheolwyr neu'n oruchwylwyr, ond heb hyfforddiant ffurfiol ym maes rheoli.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?

Caiff y cwrs hwn ei addysgu ar y cyd â sgiliau Arwain Hanfodol ac mae'n ddefnyddiol ar gyfer datblygu proffesiynol a phersonol.

Dysgu ac addysgu

Addysgir y cwrs hwn drwy gymysgedd o ddysgu ar-lein a dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion yn y dosbarth. Efallai y byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu aseiniadau, cadw dyddiadur am y cwrs, neu lunio portffolio. Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a'r myfyriwr.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

Darperir gan y tiwtor yn Amgylchedd Dysgu Rhithwir y brifysgol.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.