Ewch i’r prif gynnwys

Llenyddiaeth Mewnol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Yn y modiwl hwn, byddwn yn archwilio’r ffyrdd y mae testunau yn dychmygu ac yn herio’r duedd ddynol i orgyrraedd

Byddwn yn edrych ar gwestiynau fel 'Beth all ffuglen ei ddweud wrthym am wirioneddau’r cyflwr dynol na all ffeithiau ei wneud?' a 'Sut mae testunau yn ein helpu i gyflunio ein dealltwriaeth o’n cymdeithas a’n dyfodol?'

Yn y modiwl hwn, byddwch yn dysgu i ddarllen mewn modd myfyriol a dadansoddol drwy astudiaeth fanwl o nofelau, dramâu, cerddi a geiriau caneuon.

Byddwn yn dechrau gyda detholiadau o Brave New World gan Aldous Huxley(1932) a 1984 gan George Orwell (1949), gan olrhain y modd y mae datblygiadau ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg a gwybodaeth wedi eu cyfrodeddu â’r awch dros rym. Byddwn wedyn yn troi at y ddrama Doctor Faustus (1604/1616), sef archwiliad Christopher Marlowe o demtasiwn a bargeinio â’r enaid, yn ogystal â stori hunllefus Coleridge, ‘The Rime of the Ancient Mariner’(1798).

Ar ôl astudio rhywfaint o ffuglen fer apocalyptaidd, gan E. M. Forster a Daphne du Maurier, bydd ail ran y cwrs yn cymharu gweledigaeth Mary Shelley o ddynoliaeth yn Frankenstein (1818) â rhagfynegiadau dychmygus Octavia Butler yn ‘Speech Sounds’ (1983) a Margaret Atwood yn The Handmaid's Tale (1985).  Mae rhaid yn dweud ein bod yn byw mewn cymdeithas ‘ôl-wirionedd’, ond mae’r gwirionedd hwnnw’n agored iawn i’w ddehongli.

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n gweithredu fel rhan o'r llwybr Naratifau Mewnol, a bydd yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i chi a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys naw uned wedi'u rhannu'n themâu.

Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd.

Bydd cyfle hefyd i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, wedi'i hwyluso gan amgylchedd dysgu rhithwir y brifysgol, Dysgu Canolog.

Cynnwys y maes llafur

  • Wythnos 1 - Cyflwyniad: Gorgyrraedd mewn Gwyddoniaeth a Chymdeithas: Detholiadau o Brave New World gan Aldous Huxley (1932) a 1984 gan George Orwell (1949)
  • Wythnos 2 - Pris yr Enaid: Doctor Faustus gan Christopher Marlowe (1604/1616).
  • Wythnos 3 - Hunllefau Rhamantaidd I: 'The Rime of the Ancient Mariner' gan Samuel Taylor Coleridge (1798)
  • Wythnos 4 - Hunllefau Rhamantaidd II: 'Darkness' gan Lord Byron(1816) a Frankenstein gan Mary Shelley (1818)
  • Wythnos 5 - Frankenstein gan Mary Shelley
  • Wythnos 6 - Gweledigaethau'r Dyfodol I: 'The Machine Stops' gan E. M. Forster (1909) a 'The Birds' gan Daphne du Maurier (1952)
  • Wythnos 7 - Gweledigaethau'r Dyfodol II: ‘Speech Sounds’ gan Octavia Butler (1983)
  • Wythnos 8 - Dystopia: The Handmaid's Tale gan Margaret Atwood (1985)
  • Wythnos 9 - The Handmaid's Tale a chasgliadau.

Byddwch yn cael llungopïau o’r cerddi a straeon byrion. Mae unrhyw argraffiad yn dderbyniol ar gyfer unrhyw destun, oni bai am Doctor Faustus: argymhellir y Norton Critical Edition yn yr achos hwn (a byddwn yn darllen testun A). Ar gyfer Frankenstein, dylai myfyrwyr ddarllen fersiwn 1818.

Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen detholiadau o Brave New World a 1984 yn unig, ond efallai y byddant am eu darllen yn eu cyfanrwydd yng ngoleuni ein cyd-destun gwleidyddol presennol.

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu dadansoddiad byr o ddarn o un o'r testunau gosod (tua 500 gair) o hanner cyntaf y cwrs a thraethawd byr (1000-1200 o eiriau) yn trafod y themâu ehangach.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Marsh, N. (2002) How to Begin Studying English Literature. Basingstoke and New York: Palgrave.
  • Peck, J. and Coyle, M. (2002) A Brief History of English Literature. Basingstoke and New York: Palgrave.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.