Ewch i’r prif gynnwys

Celf Gwlad Groeg: Taith Gelfyddydol a Diwylliannol o'r Cynhanes i'r Oes Fysantaidd

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Beth all astudio celf ei ddweud wrthym am y gymdeithas a’r diwylliant y’i cynhyrchwyd ynddi, a sut y newidiodd a datblygodd hyn dros amser?

O gerflunio a phensaernïaeth i grochenwaith wedi'i baentio a phaentio waliau, bydd y cwrs hwn yn archwilio celf a diwylliant Gwlad Groeg o'r Oes Efydd i'r cyfnod Bysantaidd (2000 CC - 1500 OC).

Byddwn yn ystyried datblygiadau artistig ac yn eu gosod yn eu cyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol, gan fynd â chi ar daith o amgylch safleoedd Groeg gan gynnwys Knossos, Mycenae, Athen, Olympia, Delffi, Verghina, Nikopolis, a'r henebion yn ninasoedd Bysantaidd Thessaloniki a Chaergystenin (Constantinople).

Gan gymryd celf y byd Groegaidd fel ein ffocws canolog, byddwn yn ystyried datblygiad celf mewn perthynas â themâu megis rhywedd a rhywioldeb, claddu a chymdeithas, crefydd ac eiconograffeg, a thirwedd a chefn gwlad.

Dysgu ac addysgu

Bydd y modiwl yn cael ei addysgu drwy ddeg sesiwn dwy awr ar-lein, gan ymgorffori darlithoedd, seminarau a gweithdai.

Bydd y sesiynau hyn yn digwydd ar ffurf darlith awr o hyd gyda thrafodaethau dosbarth a gwaith grŵp ar bynciau penodol yn ymwneud â'r modiwl yn dilyn hynny, bob tro.

Bydd y trafodaethau a'r gwaith grŵp yn galluogi’r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac i gyfrannu at y dadleuon a'r pynciau a gyflwynir yn ystod y darlithoedd. Bydd adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr trwy Dysgu Canolog yn atgyfnerthu’r sesiynau trafod dan arweiniad a'r darlithoedd.

Maes Llafur:

  1. Cyflwyniad: Tirwedd Gelfyddydol a Diwylliannol Gwlad Groeg
  2. Celf ac Archaeoleg yr Oes Efydd (3500-1100 CC): Creta a’r Tir Mawr
  3. O Oes yr Haearn (1100-700 CC) i “Oes Arbrofi” (700-480 CC)
  4. Y Cyfnod Clasurol (479-323 CC): Hanes a Diwylliant
  5. Pensaernïaeth a Cherflunwaith Clasurol
  6. Paentio a Chrochenwaith Clasurol a Hynafol
  7. Celf y Cyfnod Helenistaidd (323 BC - 146 CC)
  8. Y Goncwest Rufeinig (146 CC -330 OC): Beth adawodd y Rhufeiniaid ar eu hôl?
  9. Yr hen Fyd Hwyr a Bysantiwm (330 OC - 1453 OC)
  10. Yr Amgylchedd Adeiledig yn y Cyfnod Bysantaidd: Y Tŷ, yr Eglwys a’r Unigolyn

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd disgwyl i chi gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • adolygiad beirniadol byr
  • traethawd 1000 gair.

Bydd llawer o gymorth a chefnogaeth ar gael ar gyfer y ddau aseiniad.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Cormack, R. 2018. Byzantine Art. 2il argraffiad. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen
  • Osborne, R. 1998. Archaic and Classical Greek Art. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen
  • Smith, T.J. a D. Plantzos. 2012. A Companion to Greek Art. Rhydychen: Wiley-Blackwell
  • Stewart, P. 2004. Roman Art. Rhydychen: Oxford University Press for the Classical Association

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.