Ewch i’r prif gynnwys

Anturiaethau Pellach wrth Ysgrifennu Ffuglen Droseddol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Ydych chi'n awyddus i ysgrifennu ffuglen droseddol ddiddorol, gyda phlot da?

Byddwch yn ymchwilio i strategaethau ar gyfer strwythur, rôl tro annisgwyl ar ddiwedd stori, pŵer lleoliad, creu cymeriadau eilaidd, a defnyddio naratif stori.

Wedi'i ddatblygu fel parhad o Ysgrifennu Ffuglen Droseddol a hefyd fel modiwl unigol i awduron mwy profiadol mireinio eu crefft, bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu portffolio o ysgrifennu newydd, ac i ddatblygu sgiliau ysgrifennu crynodeb a allai fod yn ddefnyddiol wrth geisio cyhoeddi gwaith.

Bydd y modiwl yn cynnig strategaethau ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes â syniad am stori drosedd hyd nofel i’w helpu i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.

Bydd y modiwl hefyd yn helpu i gynhyrchu plotiau newydd ar gyfer y rhai sy'n dymuno datblygu eu sgiliau ysgrifennu troseddol ond sydd heb syniad mewn golwg eto.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl trwy ddeg gweithdy fydd yn cynnwys adborth rheolaidd gan fyfyrwyr eraill a thiwtoriaid. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Cynnwys y maes llafur

  • Y berthynas rhwng lleoliad a phlot: sut mae lleoliad yn llywio, gyrru ac adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd.
  • Strwythurau plotiau: tensiwn yn codi ac yn cwympo, tro annisgwyl neu ddatgeliadau, diweddglo
  • Llunio ditectifs mewn ymateb i themâu plot
  • Cymeriadau eilaidd: pwy ydyn nhw? Beth maen nhw'n ei wneud?
  • Strategaethau ar gyfer defnyddio amser naratif: ôl-fflachiadau, amser go iawn, crynodeb
  • Her yr eglurhad: sut i gyfleu ‘ffeithiau’r’ achos
  • Gwerthu ein straeon: ymchwilio i'r farchnad, cyflwyno gwaith i asiantau a golygyddion

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Ar gyfer asesu, byddwch yn ysgrifennu oddeutu 1800 gair, sy'n cynnwys dau ddetholiad o ffuglen 600 gair a chrynodeb 600 gair. Bydd y gwaith yn cael ei raddio i raddfa rifiadol, yn hytrach na'r fformat pasio / methu a ddefnyddir yn Ysgrifennu Ffuglen Droseddol.

Deunydd darllen awgrymedig

James, P. D., Talking About Detective Fiction (London: Faber, 2010)

Rzepka, Charles J., Detective Fiction (Cambridge: Polity, 2005)

Scaggs, John, Crime Fiction: The New Critical Idiom (Abingdon: Routledge, 2005)

Symons, Julian, Bloody Murder: From the Detective Story to the Crime Novel (London: Penguin, 1992)

Winks, Robin W., Detective Fiction: A Collection of Critical Essays (Prentice-Hall, 1980)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.