Ewch i’r prif gynnwys

Hanfodion Ysgrifennu Creadigol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Beth yw'r berthynas rhwng awduron ac ysgrifennu? Sut y gall darllen ddylanwadu ar grefft awdur?

Mae’r modiwl ymarferol hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rai o brif feysydd y ddisgyblaeth, gan gynnwys y stori fer, barddoniaeth, a gwaith ffeithiol-greadigol drwy theori ac ymarfer.

Bydd sesiynau yn canolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud ag awduron ac ysgrifennu, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdai ysgrifennu ynglŷn â’r broses o ysgrifennu, adolygu, golygu a myfyrio.

Prif nod y modiwl yw rhoi’r wybodaeth a'r ddealltwriaeth i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiectau ysgrifennu mwy cynaliadwy neu soffistigedig, a mireinio sgiliau myfyrio beirniadol ac adborth. Mae’r modiwl yn rhan o’r Llwybr Naratifau Mewnol ond mae croeso i fyfyrwyr sydd am astudio’r modiwl fel uned annibynnol ymrestru hefyd.

Dysgu ac addysgu

Cynhelir cyfarfod dwy awr unwaith yr wythnos (18 awr o gyswllt i gyd) a fydd yn cynnwys trafodaethau, ymarferion, darlithoedd ynghylch crefft a gweithdai. Caiff dysgwyr eu hannog i ddarllen y testunau a gyflwynir a chael adborth gan y tiwtor ac aelodau eraill y grŵp. Bydd darpariaeth ar-lein ar gael drwy Dysgu Canolog gyda dolenni perthnasol i adnoddau a thaflenni dosbarth a chyflwyniadau PowerPoint.

Amserlen ddangosol:

  • Wythnos 1: Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol ac Ymarfer Beirniadol
  • Wythnos 2: Awduron ar Ysgrifennu
  • Wythnos 3: Ysgrifennu naratif
  • Wythnos 4: Ffurfiau Byr 1
  • Wythnos 5: Ffurfiau Byr 2
  • Wythnos 6: Barddoniaeth ac Iaith Farddonol 1
  • Wythnos 7: Barddoniaeth ac Iaith Farddonol 2
  • Wythnos 8: Y tu hwnt i ffuglen: Gwaith ffeithiol-greadigol
  • Wythnos 9: Casgliadau

Gwaith cwrs ac asesu

Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu trwy bortffolio o ysgrifennu creadigol (80%) a sylwebaeth feirniadol (20%). Bydd y sylwebaeth feirniadol, ar ffurf dyddiadur myfyriol, yn galluogi myfyrwyr i archwilio eu hymarfer creadigol eu hunain ac edrych ar ddeunydd darllen ehangach yn y ddisgyblaeth.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Atwood, Margaret; (2003); Negotiating with the Dead: A Writer on Writing; London: Virago
  • Mills, Paul; (2006); The Routledge Creative Writing Coursebook; Abingdon: Routledge
  • Moran, Joe; (2018); First You Write A Sentence: The Elements of Reading, Writing…and Life; London: Penguin
  • Nasta, Susheila (ed); (2004); Writing Across Worlds: Contemporary Writers Talk; Abingdon: Routledge
  • Pullman, Phillip; (2018); Daemon Voices: Essays On Storytelling; Oxford: David Fickling Books
  • Williams, Kate et al; (2012); Reflective Writing; London: Palgrave Macmillan
  • Yorke, John; (2013); Into The Woods; London: Penguin

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.