Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu gan y Dosbarth Gweithiol

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r canon llenyddol wedi bod yn destun llawer o holi manwl yn y blynyddoedd diwethaf.

Pwy sy'n creu'r canon? Beth sy'n gwneud llenyddiaeth 'glasurol'? Sut a pham y cafodd menywod a'r rheini o gefndiroedd ethnig gwahanol eu heithrio?

Mae'r modiwl hwn yn edrych ar grŵp arall sydd wedi'u heithrio mewn modd tebyg o'r canon: y dosbarth gweithiol.

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ysgrifau sy’n rhoi sylw i lais y dosbarth gweithiol ac yn gofyn sut mae profiadau dosbarth gweithiol yn llywio testunau llenyddol.

Mae’n archwilio’r rhesymau dros brinder deunyddiau, ac yn gobeithio cyflwyno amrywiaeth ehangach o destunau i fyfyrwyr.

Mae modd astudio’r modiwl hwn fel rhan o’r Llwybr Naratifau Mewnol, ond mae croeso i chi astudio’r modiwl fel uned annibynnol.

Caiff y cwrs hwn ei addysgu ar y cyd gyda Dr Michelle Deininger (Darlithydd Cydlynol yn y Dyniaethau).

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn dwy awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr ar Dysgu Canolog.

Bydd y pynciau’n cynnwys:

  • Tirweddau amaethyddol: casgliad o feirdd dosbarth gweithiol y ddeunawfed ganrif
  • Chwyldro Diwydiannol: Mary Barton, casgliad o naratifau bywyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg
  • Cenedligrwydd: Feet in Chains
  • Mewnfudo a dosbarth: The Lonely Londoners
  • Rhywedd a rhywioldeb: Taste of Honey
  • Tirweddau ôl-ddiwydiannol: Ironopolis
  • Tlodi a pherthyn: Lowborn a Common People

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae’n dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu portffolio o waith ysgrifennu o tua 1600 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Brown, Glen James, Ironopolis. Cardigan: Parthian, 2018
  • Delaney, Shelagh, Taste of Honey. (1958) London: Methuen, 2014
  • De Waal, Kit (ed), Common People: An Anthology of Working-Class Writers (Unbound, 2019)
  • Gaskell, Elizabeth, Mary Barton. (1848) Harmondsworth: Penguin, 1996
  • Hudson, Kerry, Lowborn. Harmondsworth: Penguin, 2019
  • Roberts, Kate, Feet in Chains. (1936) Cardigan: Parthian, 2012
  • Selvon, Sam, The Lonely Londoners. (1956) Harmondsworth: Penguin, 2006

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.