Ewch i’r prif gynnwys

Athroniaeth Ffeministiaeth

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

A yw bioleg neu hunaniaeth yn pennu rhyw? A yw rhyw yn wirioneddol ddeuaidd?

A oes gan fenywod unrhyw beth o bwys cymdeithasol a gwleidyddol mewn cyffredin, waeth beth fo'u dosbarth, hil a rhywioldeb? Beth sydd ei angen ar gydraddoldeb? A ellir cyfiawnhau camau cadarnhaol? Byddwn yn archwilio cwestiynau moesegol a gwleidyddol yn ymwneud â rhyw a chymdeithas.

Nid oes angen unrhyw athroniaeth flaenorol.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau. Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog.

Cynnwys y maes llafur

Byddwn yn trafod cwestiynau sy'n ymwneud â menywod, cymdeithas a'r wladwriaeth. Bydd y drafodaeth yn cael ei llywio, fel y bo'n briodol, gan athroniaeth glasurol a chyfoes, gan gynnwys dulliau ffeministaidd, gwaith empeiraidd yn y gwyddorau dynol, polisi cyhoeddus a'r gyfraith.

Ymhlith y cysyniadau sylfaenol i'w hastudio mae:

  • Rhyw
  • Gormes
  • Iaith
  • Cydraddoldeb a Hawliau
  • Ffeministiaeth

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Ar gyfer yr asesu, byddwch yn cynhyrchu gwaith ysgrifenedig o oddeutu 2,000 o eiriau i gyd, yn cynnwys ffurfio cwestiwn, astudiaeth achos a thraethawd.

Deunydd darllen awgrymedig

Bydd y tiwtor yn darparu rhestr ddarllen lawn.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.