Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglennu C

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i iaith raglennu C a sut i’w defnyddio.

Ar ôl mynychu’r cwrs hwn bydd myfyriwr wedi ennill sgiliau sylfaenol rhaglennu C.

Mae'r pynciau a drafodir yn y cwrs rhagarweiniol hwn yn cynnwys mathau o ddata, gweithredwyr rhifyddeg, gweithredwyr cymhariaeth, defnyddio datganiadau rheoli ailadroddol ac amodol, fformatio allbwn, defnyddio swyddogaethau o lyfrgell C, creu swyddogaethau a ddiffinnir gan y defnyddwyr, swyddogaethau, cyflwyniad i bwyntyddion, cyflwyniad i resi (arrays), cyrchu rhesi gan ddefnyddio is-sgriptiau a phwyntyddion, defnyddio swyddogaethau llyfrgell mewnbwn/allbwn sylfaenol, defnyddio testun a ffeiliau mynediad ar hap, defnyddio cyfarwyddebau cyn prosesu, trin strwythurau data a defnyddio ffeiliau creu.

Bydd y gwaith a asesir yn cynnwys ysgrifennu rhaglenni C.

Nid oes angen unrhyw brofiad rhaglennu.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am gael cyflwyniad cyffredinol da i raglennu cyfrifiadurol.

Dysgu ac addysgu

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o sesiynau labordy a darlithoedd traddodiadol. Mae pob cyfarfod yn dechrau gyda darlith ac yn gorffen gyda sesiwn yn y labordy.

Maes Llafur

  • Meintiau ac enwau gwahanol fathau o ddata yn iaith raglennu C
  • Y gwahaniaeth rhwng newidynnau rhifol wedi eu harwyddo a heb eu harwyddo
  • Gweithredwyr rhifyddol a gwerthuso mynegiannau gan ddefnyddio mathau o ddata rhifyddol cymysg
  • Gweithredwyr cymharol a defnyddio datganiadau ‘if’ ac yna ‘else’
  • Defnyddio dolenni ‘while’, ‘do’ a ‘for’
  • Defnyddio ffwythiannau llyfrgell a chreu ffwythiannau a ddiffiniwyd gan y defnyddiwr
  • Defnyddio cyfarwyddebau rhag-brosesydd C #include a #define
  • Gweithredwyr rhesymegol a gweithredwyr bitwise
  • Creu arrae a chyrchu arrae drwy ddefnyddio is-sgriptiau a phwyntyddion
  • Mewnbynnu nodau a llinellau gan ddefnyddio’r bysellfwrdd
  • Defnyddio dadleuon llinell orchymyn a ffwythiannau llinynnol
  • Darllen ac ysgrifennu ffeil testun a defnyddio ffwythiant perror
  • Creu a darllen ffeil sy’n cynnwys recordiau o hyd sefydlog gan ddefnyddio datganiad struct
  • Defnyddio ffwythiannau fseek a ftell i gyrchu recordiau ar hap
  • Defnyddio’r gorchymyn creu ar gyfer rhaglen gyda sawl modiwl

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cyflwyno aseiniadau i diwtor y cwrs. Ar ddiwedd y cwrs, bydd yna brawf dosbarth. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur

Deunydd darllen awgrymedig

Kernighan, B.W. and Ritchie, D.M. (1988) C Programming Language. Prentice Hall.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.