Ewch i’r prif gynnwys

Ffrangeg Ganolradd Uwch

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Rhwng Canolradd ac Uwch, mae’r lefel hon ar gyfer myfyrwyr sy’n teimlo bod angen iddynt loywi rhywfaint ar eu gramadeg sylfaenol a magu hyder yn eu Ffrangeg llafar.

Atgyfnerthu’r hyn y mae’r myfyriwr eisoes yn ei wybod yw prif nod y cwrs, yn ogystal â gwella rhuglder a chywirdeb.

B1) Bydd 2 awr o hyfforddiant trwy weminarau byw ac 1.5 awr o baratoi ar gyfer pob sesiwn.

Atgyfnerthu’r hyn yr ydych eisoes yn ei wybod yw prif nod y cwrs, yn ogystal â helpu i’w gwneud yn fwy rhugl a chywir.

Bydd y cwrs hwn yn gwneud defnydd helaeth o ddeunyddiau clyweledol a chewch ddigonedd o gyfleoedd i ehangu yr eirfa sydd gennych i’w defnyddio.

Cewch y cyfle i ymarfer mewn grwpiau bach a gwneud ymarferion chwarae rôl o sefyllfaoedd y byddwch yn dod ar eu traws mewn gwledydd lle siaredir Ffrangeg.

Bydd y cwrs yn cynnwys adolygiad o’r gwahanol amserau o’r ferf fel gorffennol, perffaith, amherffaith a gorberffaith, ond ymarfer y gwahanol sgiliau yw prif nod y cwrs.

Mae cyn-gofrestru yn hanfodol

Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein llwyfan dysgu ar-lein.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gymryd rhan ac ymarfer. Fe’ch anogir i gymryd rhan yn y dosbarth drwy amrywiaeth o weithgareddau cyfeillgar a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs

Gwaith cwrs ac asesu

Asesu parhaus trwy gymryd rhan yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwn yn darparu'r holl ddeunyddiau.

Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein llwyfan dysgu ar-lein.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.