Ewch i’r prif gynnwys

Byd y ‘Blŵs'

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r cwrs hwn ar gyfer cerddorion sydd ag ychydig neu dim profiad o greu cerddoriaeth yn fyrfyfyr ac sy’n dymuno rhoi cynnig arni.

Mae’n edrych ar nifer o agweddau gwahanol ar chwarae’r blues, yn ogystal â nifer o amrywiadau ar y ffurf blues, o’r ‘tric tri chord’ i strwythurau mwy soffistigedig.

Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i repertoire ac arddulliau perfformio amrywiaeth o gerddoriaeth blues a rhoddir digonedd o gyfleoedd i ‘jamo’. Mae croeso i unrhyw offeryn ac unrhyw lefel, ond disgwylir lefel sylfaenol o gymhwysedd.

Dysgu ac addysgu

Cynhelir y dysgu ac addysgu drwy weithio mewn grwpiau bach. Bydd y maes llafur yn cynnwys:

  • Gwreiddiau cerddorol y blues.
  • Theori: graddfeydd ac elfennau arddulliol eraill y genre.
  • Astudiaeth ymarferol ac arddangosiad o arddull y blues.
  • Perfformiadau unigol, neu fel rhan o grŵp, o gasgliad o gyfansoddiadau mewn arddull addas.
  • Cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol y gellir lleoli cerddoriaeth fyrfyfyr ynddo a’i deall yn well.

Mae’r dulliau yn cynnwys dadansoddi clywedol (enghreifftiau o gerddoriaeth wedi ei recordio), cyflwyno deunydd ar ffurf fideo a/neu DVD, ac astudiaeth ymarferol ac arddangosiad o’r arddulliau a’r genres a drafodir. Un o brif amcanion y dull hwn yw sbarduno trafod a dadlau ymhlith myfyrwyr, ac archwilio ymhellach.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fydd arholiadau ffurfiol, ond bydd gofyn ichi gyflawni dwy dasg asesu:

  1. Aseiniad dosbarth ysgrifenedig: Mae hwn wedi ei seilio ar raddfeydd ac elfennau arddulliol eraill.
  2. Perfformiad unigol neu fel rhan o grŵp: Gall hwn fod mewn unrhyw arddull blues sydd ar y cwrs, ac sy’n addas at offeryn y myfyriwr.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Davis, Francis, The History of the Blues: The Roots, the Music, the People, 2nd edn (Da Capo Press, 2003)
  • Russell, Tony and Chris Smith, The Penguin Guide to Blues Recordings (Penguin, 2006)
  • Bydd y tiwtor yn argymell recordiadau sain a/neu recordiadau DVD a rhaglenni dogfen.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.