Gweithdy Ysgrifennu Nofel Uwch
Hyd | 10 weekly meetings | |
---|---|---|
Tiwtor | Laurie Canciani | |
Côd y cwrs | CRW23A5541A | |
Ffi | £186 | |
Ffi ratach | £148 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu) | |
Location | Cwrs ar-lein |
Ydych chi eisiau gweithdy ar nofel sydd ar y gweill ond nad ydych yn gallu ysgogi eich hun i (ail)ddechrau?
Neu oes gennych chi syniad am nofel rydych chi wedi bod yn ei ystyried ers blynyddoedd na allwch chi ddod o hyd i'r amser na'r gefnogaeth i’w ddatblygu?
Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol o ysgrifennu nofelau, naill ai drwy gwrs blaenorol neu efallai drwy hunan-gyhoeddi, sy'n dymuno datblygu eu sgiliau ysgrifennu ffuglen mewn grŵp cefnogol a myfyriol.
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddrafftio, golygu a strwythuro (yn enwedig i fyfyrwyr sydd eisoes â phrosiect clir mewn golwg) ond mae lle hefyd i awduron profiadol ddechrau rhywbeth newydd.
Dysgu ac addysgu
Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys gweithdai, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp bach.
Nid yw'r cwrs hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr. Dylai myfyrwyr heb unrhyw brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol ystyried cwblhau Gweithdy Ysgrifennu Nofel yn y lle cyntaf neu un o'n cyrsiau Dechrau Ysgrifennu.
Bydd croeso cynnes i brofiad perthnasol neu ddysgu blaenorol arall gan ddarparwyr eraill hefyd. I gael cyngor neu os oes gennych ymholiadau pellach am ba mor addas ydych chi, cysylltwch â'r Darlithydd Cydlynu ar gyfer y Dyniaethau, Dr Michelle Deininger DeiningerMJ@caerdydd.ac.uk
Maes Llafur
Mae’r pynciau’n debygol o gynnwys:
- Strwythur a ffurf
- Arddull, Cyflymder a Genre
- Cymeriad
- Golygu a chymorth i fwrw ymlaen
- Cyhoeddi
Gwaith cwrs ac asesu
I ddyfarnu credydau, bydd rhaid i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi wedi’u hennill neu eu gwella. Rhaid i rywfaint o’r dystiolaeth hon fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol er mwyn i ni allu bod yn hollol sicr bod safonau’n cael eu bodloni ym mhob cwrs a phwnc.
Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gyfoethogi’ch dysg. Lluniwyd ein dulliau i wella eich hyder, a gwnawn bob ymdrech i greu ffyrdd o asesu sy’n rhoi mwynhad ac sy’n addas ar gyfer oedolion â bywydau prysur.
Sail yr asesiad fydd darn o nofel, amlinelliad o bennod ac adroddiad myfyriol o'r broses ysgrifennu a golygu ( cyfanswm o tua 2000 o eiriau). Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'n cyrsiau rhagarweiniol, mae'r cwrs hwn wedi'i farcio ar sail canran.
Deunydd darllen awgrymedig
Bydd rhestr ddarllen lawn ar gael.
Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura
Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.
Hygyrchedd
Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.