Ewch i’r prif gynnwys

Ffrangeg: Gwella eich Sgiliau Sgwrsio

Hyd Dydd Llun 24 Mehefin i ddydd Gwener 28 Mehefin 2024
Tiwtor Romina Laurent
Côd y cwrs FRE23A4183A
Ffi £148
Ffi ratach £127 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Mae’r cwrs hwn yn addas i chi os gallwch ddeall a defnyddio ymadroddion cyfarwydd a hynod sylfaenol i ddiwallu anghenion syml.

Cewch ddigonedd o gyfleoedd i ymarfer eich sgiliau sgwrsio Ffrangeg ar bynciau cyfarwydd fel:

  • cyflwyno eich hun ac eraill
  • gofyn ac ateb cwestiynau am fanylion personol fel ble rydych chi'n byw, pobl rydych chi'n eu hadnabod a phethau sydd gennych chi
  • archebu bwyd a diod, ac ati

Cewch y cyfle i ymarfer mewn grwpiau bach a gwneud ymarferion chwarae rôl o sefyllfaoedd y byddwch yn dod ar eu traws mewn gwledydd lle siaredir Ffrangeg.

Bydd y cwrs yn cynnwys adolygiad o’r gwahanol amserau o’r ferf fel gorffennol, perffaith, amherffaith a gorberffaith, ond ymarfer y gwahanol sgiliau yw prif nod y cwrs.

Mae cyn-gofrestru yn hanfodol

Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein llwyfan dysgu ar-lein.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gymryd rhan ac ymarfer.

Fe’ch anogir i gymryd rhan yn y dosbarth drwy amrywiaeth o weithgareddau cyfeillgar a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs

Gwaith cwrs ac asesu

Asesu parhaus trwy gymryd rhan yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwn yn darparu'r holl ddeunyddiau.

Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein llwyfan dysgu ar-lein.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.