Ewch i’r prif gynnwys

Sbaeneg Sgyrsiol Ganolradd

Hyd Dydd Llun 1 Gorffennaf i ddydd Gwener 5 Gorffennaf 2024
Tiwtor Paloma Galvez Corredor
Côd y cwrs SPA23A4363A
Ffi £148
Ffi ratach £127 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT

Ymrestrwch nawr

Mae’r cwrs dwys hwn yn addas i chi os ydych wedi gwneud 3 blynedd o astudiaethau rhan-amser ac rydych yn gallu cyfathrebu wrth wneud tasgau arferol lle mae angen cyfnewid gwybodaeth uniongyrchol ar faterion cyfarwydd a chyffredin.

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymarfer ac atgyfnerthu eich sgiliau iaith a siarad Sbaeneg yn hyderus.

Bydd 2 awr o hyfforddiant trwy weminarau byw ac 1.5 awr o baratoi ar gyfer pob sesiwn.

Bydd y pynciau’n cynnwys:

  • Cwrdd â phobl newydd: siarad am eich hoff bethau a’ch diddordebau.
  • Amser hamdden: siarad am wyliau a rhannu eich profiad.
  • Bwyd a diod: mynd i gael tapas.
  • Gwyliau a thraddodiadau cenedlaethol: profi ffordd wahanol o fyw.
  • Teithio o amgylch Sbaen: darganfod ardaloedd newydd yn Sbaen. El camino de Santiago.

Mae cyn-gofrestru yn hanfodol

Byddwch chi’n cael yr holl ddeunyddiau.

Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein llwyfan dysgu ar-lein.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gymryd rhan ac ymarfer. Fe’ch anogir i gymryd rhan yn y dosbarth drwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Darperir holl ddeunyddiau'r cwrs.

Gwaith cwrs ac asesu

Asesu Parhaus trwy gymryd rhan yn y dosbarth.

Deunydd darllen awgrymedig

Materials will be provided.

Audio material available via our online learning platform.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.