Ewch i’r prif gynnwys

Sbaeneg Ganolradd Uwch

Hyd Dydd Llun 3 Gorffennaf i ddydd Gwener 7 Gorffennaf 2023
Tiwtor Ana Costa and Paloma Galvez Corredor
Côd y cwrs SPA22A4195A
Ffi £140
Ffi ratach £120 (gwybodaeth am gymhwysedd ac opsiynau ariannu)
Location

21-23 Ffordd Senghennydd
Cathays
Caerdydd
CF24 4AG

Ymrestrwch nawr

Mae'r cwrs dwys hwn ar eich cyfer chi os ydych chi wedi mynychu pedair blynedd o astudio rhan-amser a'ch bod chi'n gallu cyfathrebu ar lefel uwch na sgwrs arferol yn unig.

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymarfer ac atgyfnerthu eich sgiliau iaith a siarad Sbaeneg yn hyderus.

Pynciau:

Cwrdd â phobl newydd: Amser rhydd, amserlenni, a gweithgareddau hamdden.

Teithio: Disgrifio digwyddiadau yn y gorffennol, lleoedd diddorol, a digwyddiadau diwylliannol.

Byw'n iach: bwyd ac arferion iach.

Darganfod lleoedd newydd: Cuba a Puerto Rico.

Yr Amgylchedd: El ecoturismo.

Siarad am eich dymuniadau, eich cynlluniau a rhoi cyngor.

Mae cyn-gofrestru yn hanfodol

Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein platfform dysgu ar-lein

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gymryd rhan ac ymarfer.

Fe’ch anogir i gymryd rhan yn y dosbarth drwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Bydd 18 awr o sesiynau i gyd, gan gynnwys cymysgedd o sesiynau byw a rhai paratoadol. Byddwch yn cael y ddolen i'r sesiwn Zoom ychydig ddyddiau cyn i'r cwrs ddechrau.

Byddwch chi’n cael deunyddiau’r cwrs yn y sesiwn gyntaf.

Gwaith cwrs ac asesu

Asesu Parhaus trwy gymryd rhan yn y dosbarth

Deunydd darllen awgrymedig

Byddwch chi’n cael yr holl ddeunyddiau.

Mae deunydd sain ar gael drwy gydol yr haf drwy ein platfform dysgu ar-lein.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.