Ewch i’r prif gynnwys

Drama Sain

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Sut allwch chi gadw’r gynulleidfa ar bigau’r drain gyda sain llais yn unig? Sut allwch chi adeiladu cymeriad trwy naws deialog?

Yn y cwrs hwn, byddwch yn dysgu'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i ysgrifennu ar gyfer sain, ar ffurf dramâu radio neu bodlediadau ffuglen.

Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i egwyddorion ysgrifennu dramatig llwyddiannus ar ffurf sain, o lunio syniad i ddatblygu cymeriadau cryf. Byddwch yn dysgu sut mae drama sain ac adrodd straeon yn weledol, a sut i baentio lluniau gyda geiriau i greu 'theatr rhwng y clustiau'.

Dysgu ac addysgu

Cyflwynir y modiwl drwy ddeg sesiwn 2 awr, a fydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth, gwaith grŵp bach, a sesiynau dadlau.

Caiff sesiynau dosbarth eu hategu gan adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr drwy Dysgu Canolog. Ar gyfer dosbarthiadau ar-lein, cynhelir gweithdai wythnosol yn fyw trwy Zoom, a'u cefnogi gan ddarlithoedd wedi'u recordio.

Dyma’r pynciau a allai fod o dan sylw:

  • Archwilio Fformatau Sain
  • Sut i Baentio Lluniau Gyda Geiriau
  • Strwythur Dramatig
  • Gweithredu Dramatig a Phlotio
  • Nod
  • Deialog
  • Arddull
  • Drafftio a Golygu

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o hyn fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i roi hyder i chi, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Bydd myfyrwyr yn cwblhau sgript drama sain deg tudalen neu stori sain ochr yn ochr â myfyrdod ysgrifenedig byr ar eu proses eu hunain. Bydd y portffolio yn cynnwys tua 1500 o eiriau.

Deunydd darllen awgrymedig

Darllen Hanfodol:

  • Writing for Radio gan Shaun MacCloughlin
  • Writing for Radio gan Christopher William Hill

Deunydd Darllen Ychwanegol a Ddewiswyd

  • The Art of Dramatic Writing gan Lajos Egri

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.