Ewch i’r prif gynnwys

Cyfieithu Lefel Uchel Ffrangeg-Saesneg – Ymarfer Cyfieithu

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Y modiwl ar-lein hwn yw’r cyntaf o ddau fodiwl a ddyluniwyd yn y lle cyntaf ar gyfer myfyrwyr sydd angen cyfnod dwys, a hynod ymarferol cyn yr arholiadau Diploma mewn Cyfieithu (DipTrans).

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cwblhau’r ffurflen gais hon cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Mae’n eich galluogi i gyflwyno paragraff sy’n amlinellu unrhyw gymwysterau, profiad o gyfieithu a nodau personol, fel y gallwch gael cyngor gan y tiwtor ynghylch a fyddai’r cwrs hwn yn bodloni eich gofynion.

Y Sefydliad Siartredig Ieithyddiaeth (CIoL) sy’n cynnal yr arholiad DipTrans blynyddol a gynhelir ym mis Ionawr.

Amcan ein cwrs yw datblygu eich sgiliau a’ch cyflymder wrth gymhwyso technegau cyfieithu penodol a darparu ymarferion rheolaidd ar destunau ffynhonnell cynrychioliadol, fel y byddwch yn cael eich hyfforddi i gyfieithu hyd at safon broffesiynol o dan amodau arholiad.

Cynhelir y modiwl cyntaf am ddeg wythnos o fis Ebrill tan fis Gorffennaf gyda’r diben o gyflwyno’r sylfaen ar gyfer yr ail fodiwl, sy’n cael ei gynnal yr hydref canlynol ac sy’n canolbwyntio’n benodol ar bapurau arholiad.

Dyluniwyd y cwrs ar gyfer myfyrwyr sy’n siarad Saesneg fel iaith gyntaf, neu sy’n ei siarad yn arferol ers dros deg mlynedd, ac sydd â gradd (neu gyfartal â hon) mewn Ffrangeg.

Dysgu ac addysgu

Gofynnir i chi gyfieithu pump testun. Ar gyfer pob un ohonynt, bydd y Tiwtor yn rhoi adborth a chyngor i chi ynghylch sut i wella eich dull cyfieithu. Daw’r holl destunau ffynhonnell a ddefnyddir yn y modiwl cyntaf o feysydd sy’n adlewyrchu’r meysydd arbenigol a chyffredinol sydd ar brawf yn yr arholiadau Diploma mewn Cyfieithu.

Yn ogystal â’r darnau cyfieithu ar gyfer asesiad, byddwch yn cael cyfres o ymarferion hunan-wirio sy’n sail i ddatblygiad techneg cyfieithu. I ddarparu sail ar gyfer trafodaeth ac adborth, fe’ch anogir i ddarparu anodiadau i’ch cyfieithiadau, gan amlygu anawsterau’r cyfieithiad a nodwyd a’r atebion a gymhwyswyd.

Gwaith cwrs ac asesu

Anfonir y cyfieithiadau wedi’u cwblhau bob pythefnos i blatfform dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, Dysgu Canolog (Bwrdd Du), lle byddant yn cael eu darllen a’u marcio’n fanwl yn ôl meini prawf Canllawiau Marcio’r Diploma mewn Cyfieithu.

Nod y sylwadau a’r argymhellion fydd eich helpu i fireinio eich gwaith yn unol â gofynion safon drylwyr CIoL. Yr elfen bwysicaf o’r asesu yn ein barn ni yw y dylai gryfhau eich dysgu.

Mae ein dulliau wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion. I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Mae 30 credyd i’r cwrs hwn; nid yw hyn yn ddigonol i gael cymhwyster gan Brifysgol Caerdydd.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Thinking French Translation, Hervey and Higgins, Routledge, 1992.
  • Le Nom propre en traduction, M. Ballard, Ophrys, 2001.
  • Using French Vocabulary, J. Duffy, Cambridge, 1999.
  • A textbook of translation (P. Newmark) Longman, pp.xii-292, paper, 2001, ISBN 0-13-912593-0.
  • About translation (P. Newmark), Multilingual Matters Ltd, 2001, ISBN 1-85359-117-3.
  • Paragraphs on Translation (P. Newmark), Multilingual Matters Ltd, 1993, ISBN 1-85359-191-2.
  • Annotations explained: a workbook (E. Reisinger, et al.), City University, London, Revised Edition, 2000, ISBN 0-9526783-0-6. Deunyddiau darllen da, ond nid yn ofynnol.
  • A Practical Guide for Translators (G. Samuelsson-Brown), ISBN 1-85349-428-8, 1998, Multilingual Matters.
    The Translator's Handbook (M. Sofer), ISBN 1-887563-48-2, 1999, Schreiber Publishing Rockville, Maryland.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.